En
 Trans Day of Visibility

Mae’n Ddiwrnod Amlygrwydd Pobl Drawsryweddol


30 Mawrth 2022

Mawrth 31 yw Diwrnod Amlygrwydd Pobl Drawsryweddol, ac mae’n gyfle gwych i ni ddysgu am brofiadau pobl drawsryweddol ac anneuaidd o fewn cymuned ein coleg.

Mae Emily Coombes, Swyddog Adnoddau Dynol, wedi bod yn gweithio gyda staff Coleg Gwent er mwyn eu helpu i ddysgu mwy am brofiadau pobl drawsryweddol ac anneuaidd, er mwyn sicrhau bod ein coleg yn lle croesawgar, cefnogol a chynhwysol i bawb allu dysgu a gweithio.

Coleg Gwent learner ArcAr gyfer un o’n dysgwyr, Arc, mae’r coleg wedi cynnig y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu – “Y peth gorau am Coleg Gwent yw’r profiad rydym yn ei gael yn y coleg, a’r ffaith ei fod wir yn cefnogi pwy yw pob unigolyn. Mae cefnogaeth ar gael yn hawdd, fel cwnsela a’r tîm Inspire, a roddodd gyfle i mi siarad yn agored am bethau na fyddwn yn gyfforddus yn eu trafod ag unrhyw un arall gan fy mod yn gwybod ei fod 100% yn gyfrinachol. Mae’n brofiad gwell na’r chweched dosbarth. Rwyf wedi gallu cwrdd â llawer o bobl newydd yma ac mae’n awyrgylch mwy derbyniol na’r ysgol.”

Mewn ymdrech i wella ein cefnogaeth o’r gymuned drawsryweddol ac anneuaidd yn barhaus, mae Emily a’i thîm wedi cyflwyno sesiwn cinio a dysgu misol newydd, lle gall staff ledled y coleg ddysgu a siarad am ystod eang o faterion a phynciau cyfoes. Mae un o’r sesiynau diweddar hyn wedi canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o bobl drawsryweddol ac anneuaidd, gan gynnwys gwrando ar bodlediad gan Gyflogwyr Cynhwysol ynghylch profiadau pobl drawsryweddol ac anneuaidd yn y gweithle.

Roedd y cyflwynwyr yn medru trafod eu profiadau a rhoi cyngor ar sut allwn ni i gyd gefnogi ein ffrindiau trawsryweddol ac anneuaidd o fewn cymuned y coleg a thu hwnt. Mae Emily hefyd yn argymell podlediad gwych i’w rannu â phawb heddiw – gwrandewch nawr – a rhaglen ddogfen wych ar Netflix o’r enw Disclosure, sy’n trafod effaith Hollywood ar y gymuned drawsryweddol. Os ydych chi eisiau ehangu ar eich gwybodaeth ac ymwybyddiaeth er mwyn dod yn fwy cefnogol o’r gymuned drawsryweddol ac anneuaidd, mae’n werth cymryd cip ar y rhain!

Yn y cyfamser, yn y coleg, mae gennym binnau rhagenw gwych ar gael o’r llyfrgelloedd ar bob campws, ar gyfer holl staff a dysgwyr y coleg. Gallwch gasglu’r rhain am ddim a’u gwisgo â balchder er mwyn dangos eich cefnogaeth.

Mae Aiden, un o ddysgwyr Coleg Gwent o’r farn bod y coleg yn gynhwysol ac yn amrywio, ac mae’n croesawu’r pinnau rhagenw! Gwnaethant egluro – “Rwy’n teimlo fy mod yn cael bod gyda fy mhobl fy hun a chael annibyniaeth yn y coleg, sydd wedi fy annog i fod yn fwy agored am fy sefyllfa bersonol. Rwy’n hoffi’r pinnau rhagenw newydd sydd ar gael o’r llyfrgell hefyd. Mae’n deimlad braf cael ein cydnabod o’r diwedd.”

Rydym yn parhau i gymryd camau tuag at ddod yn fwy cynhwysol drwy’r adeg yn Coleg Gwent, a gallwn ni i gyd ddysgu i fod yn gefnogol. Am ragor o wybodaeth, cymerwch gip ar y dolenni defnyddiol isod i wella eich ymwybyddiaeth o bobl drawsryweddol ac anneuaidd, a dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Coleg Gwent yma: