En

Mae Coleg Gwent yn cynnig awyrgylch dysgu ardderchog i'ch plentyn


29 Mawrth 2018

Mae Coleg Gwent yn cynnig awyrgylch dysgu ardderchog i'ch plentyn

yw un o golegau mwyaf a mwyaf llwyddiannus Cymru.

Os yw eich plentyn yn wynebu’r dewis anodd o benderfynu ar lwybr ar gyfer eu dyfodol, rydym yn cynnig mwy na chymwysterau a’r un faint o gefnogaeth ag y byddent yn ei gael yn yr ysgol.

Lles eich plentyn yw ein blaenoriaeth ni.

Mae pob myfyriwr yn derbyn cefnogaeth gan diwtor personol ac yn ogystal â hynny rydym yn cynnig cyngor gyrfa arbenigol, cefnogaeth fugeiliol yn cynnwys cwnselydd ar bob Campws, a Hyfforddwyr Sgiliau Dysgu.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau gyda chyfanswm o 34 pwnc Lefel A, o ddylunio graffeg i athroniaeth, a chyrsiau galwedigaethol llawn a rhan-amser yn amrywio o dwristiaeth ac amaethyddiaeth i beirianneg awyrol, a thechnoleg gerdd.

Yn 2017, roedd ein cyfraddau llwyddo Lefel A yn uwch na chyfartaledd y DU a Chymru, gyda chyfradd llwyddo cyffredinol o 99%.

Roedd cyfradd llwyddo cyffredinol myfyrwyr Campws Crosskeys dros 99%, gyda 30 o bynciau ar y Campws â chyfradd llwyddo o 100%. Roedd cyfradd llwyddo cyffredinol Campws Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglyn Ebwy yn 99.03%, gyda 25 o bynciau â chyfradd llwyddo o 100%.

Yn ogystal, rydym yn meithrin pobl ifanc mwy abl a thalentog drwy fod yn rhan o’r Rhwydwaith Seren, rhwydwaith o hybiau rhanbarthol a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr mwyaf galluog Cymru i gyflawni eu potensial academaidd a chael mynediad i’r prifysgolion mwyaf blaenllaw, megis Rhydychen a Chaergrawnt.

Rydym yn falch o gynnig llwybrau galwedigaethol sy’n addas ar gyfer pob lefel, o gymhwyster City & Guilds mewn Trin i Ddiploma Uwch AAT mewn Cyfrifeg. Mae gwerth diplomâu’n cael ei gydnabod yn y gweithle ac mewn addysg uwch, gyda diploma Lefel 3 estynedig gyfwerth â 3 Lefel A ac yn cynnig y nifer angenrheidiol o bwyntiau UCAS i gael mynediad i brifysgol.

Anogir myfyrwyr sy’n dilyn ein cyrsiau galwedigaethol i gymryd rhan yn WorldSkills, cynllun cystadleuaeth sgiliau cenedlaethol sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr gystadlu yn erbyn eu cyfoedion ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Er enghraifft, dewiswyd Thomas Seward, 19 oed, un o’n prentisiaid sy’n astudio Gosodiad Trydanol, fel un a fydd o bosib yn cynrychioli’r DU yn Kazan, Rwsia yn 2019.

Gyda ffocws pendant ar gyflogadwyedd ein myfyrwyr, rydym wedi cael ein cymeradwyo fel aelod o’r Career Colleges Trust sy’n gweithredu ar draws y DU. Mae’r cysyniad arloesol hwn yn dod â cholegau Addysg Bellach at ei gilydd i ddylunio a chefnogi cwricwlwm sydd â llwybrau clir i yrfaoedd yn y diwydiant y mae’n ei wasanaethu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pobl ifanc hyderus a gwydn, felly ochr yn ochr â’u cwrs, gall myfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon, gweithgareddau menter a chyfleoedd gwirfoddoli, gan ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith, a’u cynorthwyo i gwrdd â phobl newydd. Yn ogystal, mae’n beth gwych i’w roi ar eu CV neu eu cais UCAS ar gyfer prifysgol.

Yng Ngholeg Gwent, rydym yn eich cynorthwyo chi a’ch plentyn i ystyried yr holl opsiynau, gan gynnig dewis, cefnogaeth ac amgylchedd ddysgu sy’n amlygu’r gorau ynddyn nhw.

Beth am ddod draw i un o’n nosweithiau agored? Siaradwch â thiwtoriaid cwrs, cymerwch olwg ar adnoddau’r campws a phenderfynwch gyda’ch gilydd ar y cwrs gorau i gofrestru arno. Archwiliwch yn awr.