En
logo competition

Dysgwyr yn dangos eu creadigrwydd mewn cystadleuaeth dylunio logo


29 Tachwedd 2021

Mae dysgwyr dawnus Coleg Gwent wedi cael cyfle unigryw i ddangos eu creadigrwydd a dylunio logo ar gyfer Fforwm Busnes newydd Fforwm Economaidd Strategol Torfaen. Yn ddiweddar, daeth aelodau o Grŵp Entrepreneuriaeth Fforwm Economaidd Strategol Torfaen draw i Barth Dysgu Torfaen i lansio’r gystadleuaeth gyffrous ar gyfer y dysgwyr.

Dyma gyfle gwych i’r myfyrwyr weithio ar senario o’r byd go iawn ar gyfer sefydliad lleol, lle gallan nhw ddangos eu sgiliau, eu doniau a’u creadigrwydd mewn prosiect byw. Hefyd, gall y myfyrwyr ddefnyddio’r profiad hwn i feithrin eu sgiliau cyflogadwyedd ac ychwanegu at eu CV. Bydd y dysgwyr yn cael cyfle i gyflwyno gwaith celf a ddyluniwyd â llaw neu ddyluniad digidol, a bydd y sawl a ddaw i’r brig nid yn unig yn gweld ei logo’n cael ei ddefnyddio gan y Fforwm Busnes, ond hefyd bydd yn ennill taleb o £100.

Nod Fforwm Economaidd Strategol Torfaen yw creu cyfleoedd busnes newydd yn yr ardal er mwyn helpu i wella lles cymdeithasol y gymuned a chreu ffyniant hirdymor. Crëwyd y Fforwm er mwyn annog mewnfuddsoddiad yn yr ardal, helpu busnesau i dyfu ac arwain at ychwaneg o opsiynau i drigolion Torfaen o ran gyrfa a gwaith. Gyda help y Fforwm, y gobaith yw y bydd busnesau Torfaen yn gweithio ar y cyd â swyddogion y Fwrdeistref leol a chynrychiolwyr y Llywodraeth (yng Nghymru ac yn San Steffan) i gynorthwyo unigolion gyda’r cyfle i gynnal eu sgiliau a sicrhau gwaith.

Ochr yn ochr â’r gystadleuaeth dylunio logo, yn ystod eu hymweliad â Pharth Dysgu Torfaen cafodd aelodau’r Fforwm eu cyflwyno i griw o fyfyrwyr sy’n gweithio yn yr ystafell gyfrifiaduron Mac newydd, a llwyddodd cymhelliant y dysgwyr a’r staff i greu argraff fawr arnyn nhw. Yn ôl Jean Church, Cadeirydd y Grŵp, roedd y myfyrwyr yn llawn ffocws a chymhelliant yn ystod y trafodaethau a gafodd gyda nhw. Cafodd ei hysbrydoli hefyd gan hyd a lled y pynciau, oherwydd roedd pob myfyriwr yn mynd i’r afael ag elfen wahanol ar y cwricwlwm er eu bod yn dal i weithio ochr yn ochr â’i gilydd.

Gan fod ystod eang o gyrsiau ar gael yn Coleg Gwent, mae modd i’n dysgwyr ddangos amrywiaeth unigryw o ddoniau a fydd yn siŵr o ddisgleirio yn y gystadleuaeth dylunio logo. Mae Zoe Blackler, Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd yn Coleg Gwent, wrth ei bodd fod y Fforwm wedi gwahodd ein dysgwyr i gymryd rhan mewn cyfle mor wych i weithio ar brosiect yn y byd go iawn. Mae’n gyfle gwych inni ddangos a manteisio ar ddoniau ein dysgwyr yma yn Coleg Gwent er mwyn meithrin sgiliau cyflogadwyedd a hefyd er mwyn i’r enillydd weld ei logo’n cael ei ddefnyddio yn yr ardal – dechrau rhagorol i’w CV a’i bortffolio!

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 6 Rhagfyr. Mae ar agor i holl ddysgwyr Coleg Gwent. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac i gael rhagor o wybodaeth amdani, cysylltwch â Thîm Uchelgeisiau CG.