En
People standing in front of Reach+ banner

Sut ydym yn helpu ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau gyda'r Prosiect Reach+


20 Mawrth 2020

Mewn partneriaeth arloesol a blaengar gyda Chyngor Dinas Casnewydd, mae Coleg Gwent yn falch o fod yn rhan o gyflwyno’r prosiect Reach+ yn ardal Casnewydd. Mae Reach+ yn gynllun Llywodraeth Cymru sy’n darparu canolfannau cefnogi un stop yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, gyda’r nod o helpu ffoaduriaid wrth iddynt ailadeiladu eu bywydau ac integreiddio i’w cymunedau lleol.

Mae’r canolfannau yn gweithredu fel safleoedd canolog i ffoaduriaid gael gafael ar gyngor a gwasanaethau cymorth, yn ogystal â bod yn ganolfannau ar gyfer ‘ESOL’ (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill.) Gyda chyswllt rheolaidd â mentor, mae’r canolfannau Reach+ yn galluogi ffoaduriaid i gael hyfforddiant iaith, cymorth gyda chyflogaeth a datblygu gwybodaeth ddiwylliannol a lleol, sydd o gymorth iddynt ailadeiladu a thrawsnewid eu bywydau drwy weithredu cadarnhaol.

Mae Canolfan Casnewydd wedi’i lleoli yn y Llyfrgell Ganolog, lle mae Coleg Gwent yn darparu sesiynau asesu ‘ESOL’ a Chyngor Dinas Casnewydd yn cynnal asesiadau cyfannol ac yn helpu ffoaduriaid i oresgyn y rhwystrau a allai ddod i’w rhan. Ers agor ei drysau ym mis Gorffennaf 2019, mae Reach+ Casnewydd wedi cael mwy na 100 o ffoaduriaid yn mynychu a mwy na 80 yn derbyn hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd, gan gael effaith bositif ar y grŵp bregus hwn o’r gymuned.

Gary Handley talking at Reach+ event

Mae Gary Handley, Cyfarwyddwr Cyfadran Astudiaethau Gofal a Chymuned Coleg Gwent, yn goruchwylio’r prosiect. Dywedodd: “Diolch i’r gwaith partneriaeth ardderchog y mae’r prosiect hwn, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi’i hwyluso, fel Coleg, rydym bellach yn fwy ymroddedig i weithio gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r gwasanaethau ar gyfer unrhyw unigolion nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt; yn enwedig o ran bod o gymorth iddynt gael cyflogaeth hirdymor yng Nghasnewydd a’r cyffiniau.”

Mae Casnewydd yn ddinas amrywiol iawn sy’n gartref i bobl o nifer o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd. Mae canolfan Reach+ yn cefnogi ac yn hybu cynwysoldeb ac amrywiaeth, gan werthfawrogi cyfraniad ffoaduriaid o fewn ein cymuned leol. Pwysleisiodd Gary fod “nifer o sectorau economaidd sydd â phrinder staff sylweddol eisoes ac ar ôl cwblhau’r cyrsiau hyfforddiant angenrheidiol, bydd y prosiect hwn yn ceisio helpu i leoli ffoaduriaid (ac eraill sydd â rhwystrau ieithyddol) yn briodol o fewn ein diwydiannau lleol.

Mae nifer o gyflogwyr lleol eisoes yn gweithio gyda ni ar hyn ac rydym eisoes yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol ar eu busnesau. Y gobaith yw y bydd y cyhoeddusrwydd hwn o gymorth i dynnu sylw eraill at brosiect blaengar ac arloesol Reach+.”

Mae gweld yr effaith gadarnhaol y mae’r prosiect Reach+ eisoes yn ei chael o fewn ein cymuned leol wedi bod yn wych ac edrychwn ymlaen at weld y bartneriaeth hon gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn parhau i ffynnu gan fod o fudd i ffoaduriaid a chyflogwyr lleol fel ei gilydd.

Straeon Llwyddiant

Yn ddiweddar, bu i ni gyfarfod Canan, o Dwrci, sy’n un o ddefnyddwyr gwasanaeth prosiect Reach+ ac yn un o’i straeon llwyddiant.

Woman standing in front of Reach+ banner

Nid yw Canan wedi gallu dychwelyd i Dwrci gan na fyddai hynny’n ddiogel ar ei chyfer hi a’i theulu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar ôl treulio amser yn Llundain a’i chael hi’n anodd cael gafael ar gymorth a chefnogaeth, mae Canan a’i theulu wedi adleoli ac wedi adeiladu bywyd newydd yn ne Cymru.

Dywedodd “Mae fy ngŵr wedi dod o hyd i waith yma ac mae fy mab yn yr ysgol erbyn hyn. Rwyf hefyd wedi ymuno â mudiad British Red Cross er mwyn ymarfer fy Saesneg a byddaf yn dechrau swydd newydd ymhen chwe wythnos.”

Darganfyddwch fwy am straeon llwyddiant Reach+: www.reach.wales/en/success-stories