En

Gwella eich cyfleoedd gyrfa: Gall Coleg Gwent gynnig y dewis a'r gefnogaeth yr ydych eu hangen


29 Mawrth 2018

Gwella eich cyfleoedd gyrfa: Gall Coleg Gwent gynnig y dewis a'r gefnogaeth yr ydych eu hangen

Gall gwneud penderfyniadau ynglŷn â’ch dyfodol fod yn heriol, yn arbennig os ydych yn dal i astudio ar gyfer eich.

Gyda chwe chanolfan leol unigryw, mae Coleg Gwent yn cynnig dewis eang o gyrsiau a’r un lefel o gefnogaeth ag yr ydych yn ei gael yn yr ysgol.

Rydym yn ymfalchïo yn ein cyfleusterau, a gallwn gynnig popeth yr ydych eu hangen i ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol. Maent yn amrywio o’n canolfan hyfforddi ynni adnewyddadwy – Academi Braxi, sy’n meddu ar y dechnoleg ynni ddiweddaraf – i’n stiwdio gerddoriaeth a’n theatr berfformio o’r radd flaenaf.

Os ydych eisiau astudio eich Lefel A gyda ni rydym yn cynnig dewis o 34 pwnc, o ddylunio graffeg i athroniaeth. Yn 2017 roedd ein cyfraddau llwyddo Lefel A yn uwch na chyfartaledd y DU a Chymru, gyda chyfradd llwyddo cyffredinol o 99%.

Gallwch ddarganfod mwy am sut brofiad yw astudio yn y coleg drwy fynychu un o’n digwyddiadau agored lle gallwch siarad â darlithwyr a derbyn y cyngor sydd ei angen arnoch.

Rydym yn gwybod fod bywyd myfyriwr yn fwy na’r hyn yr ydych yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae ein rhaglen gyfoethogi’n cynnig llawer o gyfleoedd i chi wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau bywyd gwerthfawr, megis gwirfoddoli, chwaraeon, cerddoriaeth a drama a chlybiau a chymdeithasau.

Yn ogystal, mae cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau menter ac i wella eich cyflogadwyedd, datblygu sgiliau megis datrys problemau’n effeithiol a gwaith tîm. Bydd  a sefydliadau allanol eraill yn eich cefnogi ac yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich CV, cynnal ffug gyfweliadau a darparu lleoliadau gwaith.

Yn ogystal, rydym yn cynnig cyfle i chi wella eich cyfleoedd gyrfa yn eich maes, megis y Bartneriaeth Sgiliau Adeiladu Tai ar gyfer myfyrwyr gwaith brics. ‘Bŵt-camp’ carlam chwe wythnos yw hwn lle gallwch ddatblygu eich sgiliau a’u harddangos i gyflogwr. Yn dilyn asesiad terfynol, mae’n bosib y cewch gyfle i symud ymlaen i safle’r adeiladwr tai fel gweithiwr.

Yn ogystal, rydym yn cynnal wythnos gyflogadwyedd yn yr Ysgol Celfyddydau Creadigol, gyda nifer o fodelau rôl proffesiynol megis coreograffwyr, actorion, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr y celfyddydau yn ymweld ac yn rhannu eu harbenigedd mewn cyfres o weithdai.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn elwa cymaint â phosib ar eich profiad yn y coleg; yn ogystal â chael tiwtor personol eich hunain, os ydych yn credu eich bod wedi dewis y cwrs anghywir, bydd ein cynllun ‘Cyfnewid nid Gadael’ yn eich caniatáu i newid cwrs yn ddiffwdan.

Mae gan ddarlithwyr Coleg Gwent flynyddoedd o brofiad mewn diwydiant felly rydych yn dysgu gan arbenigwyr. Un o’r rheiny yw’r darlithydd Gareth Jones, sydd â’r rôl glodwiw o fod yn Arbenigwr WorldSkills mewn Gosodiadau Trydanol, ac yn ddiweddar mae o wedi dychwelyd o daith i Abu Dhabi gyda Thîm y DU ar gyfer pencampwriaethau’r byd 2017. Mae Gareth yn parhau i weithio fel rheolwr hyfforddi ochr yn ochr â’i rôl yn y coleg.

Mae astudio gyda ni’n golygu mwy nag ennill cymhwyster yn unig, mae’n golygu bod y person yr ydych eisiau fod, gyda dyfodol i edrych ymlaen ato.

Dewch i’n noson agored nesaf. Mae’n gyfle i gwrdd â’r tiwtoriaid, edrych o gwmpas y coleg a bodloni eich hun eich bod yn cymryd y camau cywir i wireddu eich targedau gyrfa. Archwiliwch yn awr.