En

Dydd Rhyngwladol Menywod 2019


7 Mawrth 2019

Dydd Rhyngwladol Menywod 2019

Mae Dydd Rhyngwladol Menywod (dydd Gwener 8 Mawrth) hefyd yn syrthio o fewn Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd ac Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
I nodi’r diwrnod cenedlaethol hwn, rydym yn rhannu llwyddiant ein myfyrwyr benywaidd a’u teithiau coleg hyd yn hyn.

Mae myfyriwr Lefel 3 Iechyd a gofal cymdeithasol, Rhianna Davies (yn y llun uwch), yn mynd i’r brifysgol yn ddiweddarach eleni i wneud gradd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru.

“Dim ond y llynedd benderfynais i ‘mod i’n dymuno gwneud gwaith cymdeithasol; dw i’n mwynhau helpu pobl eraill a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Dw i’n mwynhau’r lleoliadau fel rhan o fy nghwrs ar hyn o bryd, dw i’n cysgodi gweithwyr cymdeithasol, Dechrau’n Deg ac yn gweithio gyda chymorth seibiant a byw gyda chefnogaeth.
“Dw i wedi sicrhau swydd gyda MENCAPgyda gwaith parhaol, rhan-amser mewn gwasanaethau byw gyda chefnogaeth. Ymgeisiais amdani i gael swydd ran-amser fel ei bod yn ffitio o gwmpas fy astudiaethau.”
Bu bron i Rhianna, sy’n 18 oed, beidio ag astudio’r cwrs – “Roeddwn i’n mynd i wneud cyrsiau Lefel Agan fod y rhan fwyaf o fy ffrindiau yn gwneud hyn ond es i i ddigwyddiad agored yn y coleg a gwrandawais ar fyfyrwyr presennol yn siarad am y cwrs hwn – rydych chi’n dal i gael canlyniad da o hyn; yr un peth â chyrsiau Lefel A. Dw i’n hapus ‘mod i wedi dilyn y llwybr hwn.”

Mae myfyriwr Lefel 2 Trwsio a pheintio wedi damwain, Helen Hagley, 44, yn gweithio yn ôl ei chynllun 10 mlynedd.

“Dewisais i’r cwrs hwn i fy helpu i weithio gyda fy nai i redeg ein busnes ein hunain. Byddwn yn adfer hen geir; bydd e’n gwneud y gwaith mecanyddol a bydda i’n gwneud y trwsio a’r gwaith paent. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bwriadaf wneud cwrs busnes a phrentisiaeth am 2-3 blynedd yn y gweithle.

“Dw i wedi bod yn awyddus i wneud y cwrs hwn ers tua 20 mlynedd. Gan fy mod i’n fenyw roeddwn i braidd yn bryderus ynglŷn ag ymuno ond meddyliais i dw i am fwrw ymlaen a’i wneud e! Y gamp fwyaf i mi hyd yn hyn yn fy mywyd coleg oedd cyrraedd ar gyfer y diwrnod cyntaf – mae’r gweddill ers hynny wedi bod yn hawdd!” Dechreuodd Shania Cording, myfyriwr Gwaith Brics Lefel 1 ar un o’n cyrsiau amlsgiliau gan nad oedd hi’n gwybod beth roedd hi am wneud. Ar ôl cwblhau modiwl mewn gwaith brics, penderfynodd astudio hyn ar sail llawn amser.

“Rydych chi’n cael y rhyddid i weithio ar brosiectau, dw i wir yn mwynhau’r gwaith ymarferol. Rydych chi’n cael cefnogaeth dda gan y tiwtoriaid sydd hefyd yn rhoi cynghorion i chi ar gyflogadwyedd. Bydda i’n astudio Gwaith Brics hyd at lefel 3 ac wedyn yn mynd i’w wneud yn broffesiynol.

“Cafodd fy ffrindiau a ‘nheulu sioc yn y lle cyntaf pan ddywedais i mod i’n dymuno mynd i wneud hyn ond dw i’n magu mwy o hyder yn y pwnc. Fy nghyngor i bobl sy’n dymuno astudio hyn yw i roi cynnig arni, hyd yn oed os nad oes gennych chi syniad beth rydych chi’n dymuno gwneud.”

Mae’r myfyriwr Lefel A, Eve Tranter, ar ei ffordd i Brifysgol Rhydychen eleni i astudio meddygaeth ac mae hi’n hyfforddi i fod yn llawfeddyg.

“Cyrsiau Lefel A oedd yn gweddu orau i mi gan fod eu hangen i mi astudio meddygaeth yn y brifysgol. Mae’r coleg wedi rhoi’r sgiliau i mi oresgyn heriau y gallwn wynebu yn y dyfodol a dysgodd i mi sut i ddyfalbarhau gyda fy ngwaith pan fydd pethau’n heriol.
“Mae’r newid o TGAU i Lefel A yn naid fawr yn nhermau cynnwys cwrs ac annibyniaeth ychwanegol ond mae’r tiwtoriaid a staff y llyfrgell wedi helpu gyda hyn; y gefnogaeth sy’n cael ei darparu y tu allan i wersi yw’r peth gorau ynglŷn ag astudio yng Ngholeg Gwent. Peidiwch byth ag anobeithio ynghylch eich breuddwydion a nodau – mae gwaith caled yn talu bob tro!”