En

Coleg Gwent yn llwyddo yn arolwg peilot Estyn


18 Gorffennaf 2018

Coleg Gwent yn llwyddo yn arolwg peilot Estyn

Coleg Gwent yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i fod wedi profi fframwaith arolygu newydd Estyn, gan sicrhau dyfarniad yn y categori Da ym mhob adran.
Bydd y fframwaith newydd ar gyfer colegau yng Nghymru yn dod yn weithredol fis Medi eleni. Dan y fframwaith newydd, mae Estyn yn gwerthuso darparwyr mewn pum Maes Arolygu sy’n newid o’r Tri Chwestiwn Allweddol blaenorol; rhoddir mwy o bwyslais ar brofiad y dysgwr ac effaith gweithredoedd y darparwr.
Yn ogystal â newidiadau i sut y ffurfir dyfarniad, bellach dim ond cryfderau a gwendidau amlwg a gynhwysir gan Estyn yn eu hadroddiad.

Dywedodd, Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent, “Diddorol oedd gweithio gydag Estyn i dreialu eu fframwaith arolygu newydd. Gwerthfawrogwn yr adborth a’r gydnabyddiaeth gadarnhaol gan Estyn ynghylch y gwaith da iawn a wna’r coleg i sicrhau bod y dysgwyr yn cyflawni eu cymwysterau.
“Edrychwn ymlaen at gael clywed sut mae’r fframwaith newydd yn datblygu wrth iddynt ei gyflwyno’n raddol ar draws y sector.”

Mae’r adroddiad yn canmol y coleg am ei g efnogaeth i ddysgwyr, yn arbennig myfyrwyr bregus. Mae llwyddiannau sylweddol eraill a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys cyfraddau llwyddo cynyddol y coleg yn y prif gymwysterau galwedigaethol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Canmolwyd y Coleg am sicrhau bod gan ddysgwyr lwybrau parhad addas drwy ymgorffori adborth gan gyflogwyr lleol a blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol yn eu cynlluniau.

“Rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein cysylltiadau effeithiol â chyflogwyr. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau rhanbarthol drwy weithio’n agos â chyflogwyr i lansio Career Colleges cyntaf Cymru, gan gynorthwyo myfyrwyr i fod yn barod am yrfa”, parhaodd Guy.

Darllenwch adroddiad Estyn.