En
The Lord's Mayors Lunch

Dysgwyr Coginio Proffesiynol Coleg Gwent yn Creu Argraff yn Nigwyddiad Mawreddog Fforwm y Cogyddion


29 Tachwedd 2023

Dathlu lansiad llyfr Fforwm y Cogyddion, The Chefs’ Knowledge

Mewn dathliad o ragoriaeth coginio, y mis diwethaf, cafodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, a 100 o westeion o fri gwmni ein dysgwyr coginio proffesiynol lefel 2 a lefel 3 yn y cinio diweddaraf i ddathlu lansiad llyfr Fforwm y Cogyddion, The Chefs’ Knowledge.

Yn gogydd proffesiynol, cystadleuydd Great British Menu a darlithydd yn Coleg Gwent, ymunodd Cindy Challoner â Justin Llewellyn, Keith Clash ac Andrew Minto ochr yn ochr â pherchnogion tai bwyta a chyflenwyr yn y digwyddiad mawreddog a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Gyfnewidfa yng Nghaerdydd.

Academi Fforwm y Cogyddion

Mae Academi Fforwm y Cogyddion wedi ffurfio partneriaeth â sefydliadau addysgol, fel Coleg Gwent, i wella’r profiad coginio i fyfyrwyr. Mae’r Academi yn gweithio’n agos â cholegau drwy wahodd cogyddion blaenllaw’r diwydiant i gynnal dosbarthiadau meistr gyda dysgwyr i’w haddysgu am dechnegau arloesol a phrydau bwyd sy’n cael eu paratoi mewn bwytai.

Lords Mayor's Lunch

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddysgwyr weld yr arferion coginio diweddaraf mae ymgysylltu â’r Academi hefyd yn annog dysgwyr i ymgysylltu’n weithredol ag arbenigwyr i’w helpu i gael mwy o wybodaeth yn eu maes dewisol.

Bu dysgwyr Coleg Gwent yn gweithio yn y digwyddiad, yn y gegin a blaen y tŷ. Dan arweiniad Cindy Challoner, sy’n ddarlithydd yn Coleg Gwent ac yn gogydd proffesiynol profiadol, bu’r dysgwyr yn gweini bwydlen a greodd argraff ar y gwesteion.

I ddechrau

Cindy Challoner (Darlithydd Coleg Gwent a chystadleuydd Great British Menu)
Golwyth cig oen Awstralia â chrwst perlysiau, seleriac a haidd perlog pwff

Cwrs Pysgod

Justin Llewellyn (Gwesty Parkgate)
Veronique lleden y môr Royal Greenland

Prif gwrs

Keith Clash (Gwety’r Gyfnewidfa)
Syrwlyn o gig eidion Awstralia wedi’i serio, cig eidion brwysiedig, bonbon Bara Brith a Perl Las, tatw confit, purée pwmpen cnau menyn a jus

Pwdin

Andrew Minto (Cogydd a Pherchennog Minto’s Patisserie ac Enillydd Bake Off: The Professionals 2021)
Crymbl afal yr hydref gyda hufen iâ caramel hallt

Gan fyfyrio ar y profiad, mynegodd y dysgwyr eu gwerthfawrogiad o gael y cyfle i weithio â chogyddion hynod fedrus.

Dywedodd un dysgwr: “Rwyf wedi gweithio mewn rhai o’r digwyddiadau yn ystod fy nghymhwyster lefel 2 a nawr fy lefel 3, maen nhw’n wych gan eich bod yn cael gweithio â chogyddion o fri a rhai cogyddion enwog hefyd. Mae’n gyfnod pryderus pan rydych yn cyrraedd yno ond mae’r cogyddion yn eich helpu ac rydych yn dod i ddeall y drefn yn fuan iawn.”

Dywedodd dysgwr arall: “Rwy’n gobeithio gweithio mewn gwesty neu fwyty o fri yn y dyfodol a fy nod yw cael seren Michelin”.

Dywedodd Cindy Challoner: ” Bûm yn rhan o Fforwm y Cogyddion ers blynyddoedd, a gofynnir i mi’n aml i gynnal digwyddiadau ar draws Cymru, yn amrywio o ffair gêm Cymru i ddigwyddiadau fel yr un yn y Gyfnewidfa Lo.

“Mae’r profiad a’r wybodaeth a gaiff y myfyrwyr o gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn yn werthfawr gan eu bod yn cael gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o wahanol gogyddion wrth ennill profiad yn y diwydiant. Yn ogystal â hyn, mae’r myfyrwyr yn aml yn cael cynnig gwaith neu leoliadau – sy’n hynod gyffrous.”

Os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa yn y maes lletygarwch, cymerwch gipolwg ar y cyrsiau sydd gennym ar gael.