En

Coleg Gwent yn ymateb i farwolaeth Brenhines Elizabeth II


9 Medi 2022

Ddoe, cyhoeddodd Palas Buckingham y newyddion trist am farwolaeth y Frenhines Elizabeth II, yn 96 oed.  Hi oedd y teyrn a deyrnasodd hiraf yn hanes Prydain, a newydd ddathlu ei Jiwbilî Platinwm, fel Brenhines am 70 mlynedd.

I lawer, bydd y newyddion hwn yn destun tristwch mawr yn dilyn marwolaeth un o ffigyrau mwyaf cydnabyddedig y byd. Bu hefyd yn noddwr ac yn llywydd dros 600 o elusennau, cymdeithasau milwrol, cyrff proffesiynol, a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus, ac roedd yn enwog am ei hymrwymiad i’w dyletswyddau brenhinol yn ystod ei theyrnasiad.

Maes o law, bydd swyddogion y Palas yn cyhoeddi dyddiad yr angladd gwladol a fydd, os caiff ei gynnal yn ystod yr wythnos, yn Ddiwrnod Galaru Cenedlaethol swyddogol ym Mhrydain. Golyga hyn y bydd pob sefydliad yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Coleg Gwent, yn cau fel arwydd o barch wrth gydnabod yr achlysur.

I’r rheini sy’n dymuno myfyrio ac estyn eu cydymdeimlad yn Coleg Gwent, byddwn yn gosod llyfr cydymdeimlo ym mhob derbynfa o ddydd Mawrth 13 Medi. Wedi’r angladd, byddwn yn casglu’ch holl negeseuon a’u hanfon i Balas Buckingham.

Yn dilyn newyddion trist ddoe, bydd y coleg yn parhau ar agor. Bydd staff wrth law i gynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sydd ei angen. Byddwn yn cysylltu â chi eto pan fydd manylion yr angladd gwladol yn cael eu cadarnhau. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â rhywun os ydych yn teimlo wedi eich llethu yn dilyn y digwyddiad trist hwn.

“Pan fydd bywyd yn ymddangos yn galed, nid yw’r dewr yn gorwedd i lawr ac yn derbyn eu trechu, yn hytrach, maen nhw’n fwy penderfynol fyth i frwydro am ddyfodol gwell.” Ei Huchelder Brenhinol, y Frenhines Elizabeth II.

 

Neges gan yr Athro Russell Deacon

Rhannodd yr Athro Russell Deacon, Darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru a Darlithydd mewn Hanes, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, ei sylwadau mewn erthygl yn ffarwelio â’r Oes Elisabethaidd. Darllenwch fwy yma.

“Rhaid i ni yn awr ffarwelio â’r ail oes Elizabethaidd!”

“Dros y saith degawd diwethaf, bu rhywbeth cyson yn rhan o’n bywydau nad oedd yn newid o gwbl, ac yno o hyd, ac er ein helyntion a’n trafferthion cenedlaethol amrywiol roedd yna ffigwr o sicrwydd – a’r diweddar Frenhines Elizabeth II oedd honno. O’r diwrnod y bu farw ei thad ar 6 Chwefror 1952, cawsom ein hatgoffa’n ddyddiol am ein brenhines, wrth dalu am nwyddau, drwy ei phortread ar arian a phapur, anfon llythyr wrth weld ei hwyneb ar stampiau a hyd yn oed wrth dalu ein trethi drwy Gyllid a Thollau ei Mawrhydi. Bu ei Huchelder yno drwy law a hindda.

Ganed y cyn Frenhines fel tywysoges ond ni chafodd ei geni i fod yn Frenhines. Dim ond ar ôl ymddiorseddiad ei hewythr Edward VII yn 1936 y daeth y llwybr hwnnw’n fwy amlwg. Yn fuan iawn wedyn prin oedd yr amser iddi gychwyn ei bywyd ei hun fel oedolyn pan gafodd ei choroni, yn dilyn marwolaeth ei thad ei hun Sior VI, yn 56 mlwydd oed yn unig. Ers y dyddiad hwnnw hi fu ffigwr politicaidd mwyaf poblogaidd ein hynys, efallai gan nad yw hi erioed wedi rhoi cyfweliad neu prin iawn fu iddi roi ei barn ar bethau yr oedd hi’n cytuno neu’n anghytuno ag o. Ar yr un pryd llwyddodd i greu llinach gyda Thywysog Cymru’n rhan ohono ac y bydd y Brenin Charles III yn rhan ohono o hyn ymlaen.

Fel hanesydd, mae’n ddiddorol i mi, pan ddaeth Brenhines Elizabeth II i rym, cyhoeddwyd yr oes Elizabethaidd Newydd ac yn sicr bu’n gyfnod unigryw o newid. Ni fyddai myfyriwr neu ddarlithydd yn ein colegau blaenorol a oedd yn rhan o Goleg Gwent yn 1952, erioed wedi breuddwydio y byddai’r byd dysg wedi cael ei newid gymaint yn sgil teyrnasiad y frenhines newydd hon. Mae technoleg a’r cyfle i ddysgu ac i ddatblygu wedi gweddnewid miliynau o bobl yn llythrennol yng Ngwent dros y cyfnod hwn. Maent wedi symud i mewn i ardaloedd sy’n cynnig cyflogaeth ac astudio na fyddai’r genhedlaeth flaenorol wedi elwa ohono, ar wahân i’r breintiedig a’r elit. Iddyn nhw a ninnau, bu teyrnasiad y Frenhines yn un ble cafwyd cyfle i fyw mewn modd na fyddai cenedlaethau’r gorffennol wedi ei wneud, yn wir breuddwyd yn unig fyddai hynny iddynt.

Bu’r Frenhines ddiweddar a’r Brenin newydd yn ymweld yn rheolaidd â’r safleoedd, pentrefi, trefi a’r dinasoedd a wasanaethir gan ein campysau, ac mae amryw o’r rhai a fu’n astudio neu’n gweithio yno wedi gweld, cyfarfod a hyd yn oed cael sgwrs â nhw. I’r bobl hynny, ac i chithau, efallai bod atgof arbennig i’w drysori neu ei rannu ag eraill yn ystod y cyfnod hwn o alaru cenedlaethol. Felly, ar drothwy teyrnasiad ac oes newydd, treuliwch eiliad yn cofio am y pethau mwyaf cadarnhaol sydd wedi digwydd i chi a’ch teulu, a sut beth oedd hi i fod yn rhywun a oedd yn byw yn yr oes Elizabethaidd Newydd.”