En
World Skills UK

Dysgwyr Coleg Gwent yn ennill yn WorldSkills UK


20 Tachwedd 2023

Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi bod yn wych eleni yn ogystal â’r canlyniad i Dîm Cymru, gyda dysgwyr Coleg Gwent yn cipio Aur, Arian ac Efydd a Chanmoliaeth Uchel ar draws amrywiaeth o gystadlaethau sgiliau!

Cynhaliwyd rowndiau terfynol cystadlaethau WorldSkills UK 2023 yn ystod mis Tachwedd, gyda myfyrwyr a phrentisiaid o bob cwr o’r wlad yn cystadlu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau sgiliau, o golur creadigol i arlwyo, a chynhyrchu cyfryngau i drin gwallt.

Daeth dros 400 o gystadleuwyr o ledled y DU i geisio cael eu coroni’n ‘bencampwyr sgiliau’ o fewn eu meysydd arbenigol. Cyrhaeddodd 20 o ddysgwyr Coleg Gwent y rowndiau terfynol. Dangosodd y dysgwyr eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y cystadlaethau ledled y wlad, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal ym Manceinion.

World Skills UK

Ein hyrwyddwyr sgiliau

Cyhoeddwyd y medalwyr mewn seremoni wobrwyo ddisglair ddydd Gwener 17 Tachwedd yn Neuadd Bridgewater ac rydym yn falch o ddweud fod ein dysgwyr wedi ennill cyfanswm o pedwar medal, gan sicrhau unwaith eto bod Coleg Gwent yn un o’r deg prif goleg ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn y DU a gorffen yn y 4ydd safle yn gyffredinol.  

Dywedodd Theresa Hayes, dysgwr Trin Gwallt Lefel 3 sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth trin gwallt: “Mae’n gyffrous iawn cael cystadlu yn y gystadleuaeth hon. Rydw i wedi bod yn hyfforddi’n galed iawn ac rwy’n edrych ymlaen at gystadlu a chael profiad da a fydd gobeithio yn rhoi cyfleoedd i mi yn y dyfodol. Os cewch gyfle i gymryd rhan, byddwn yn bendant yn ei wneud!”

Dywedodd Tierney Parker, cystadleuydd Colur Masnachol: “Rwyf wedi cael y briff terfynol hwn yn llawer mwy cymhleth na’r ddwy rownd gyntaf, ac fe gymerodd dipyn o amser i mi ddatblygu fy syniad, ond nawr mae hynny wedi’i ddatrys rwy’n edrych ymlaen at weld fy ngweledigaeth yn dod yn fyw. Fy nghyngor i unrhyw un sy’n cystadlu’r flwyddyn nesaf fyddai mynd mor fawr ag y gallwch, ac yn bennaf oll, jyst cael hwyl!

Dywedodd Richard Wheeler, Rheolwr Cystadleuaeth Sgiliau: “Mae’n wych gweld unwaith eto fod gan Coleg Gwent gynrychiolaeth yn rowndiau terfynol cenedlaethol WSUK. Yn ôl beth welaf, mae’r holl enillwyr cenedlaethol hyn yn enillwyr yn barod, felly mae mynd ati a chystadlu yn erbyn goreuon y DU yn eu sgìl nid yn unig yn cymryd dewrder ond hefyd llawer o gymhelliant, ymroddiad a sgiliau rhyngbersonol megis rheoli amser, datrys problemau, ymdopi â phwysau ac yn y blaen. Dysgir yr holl sgiliau hyn nid yn unig ar gyfer cystadlu, ond maent yn sgiliau bywyd a fydd yn helpu i baratoi ein dysgwyr ar gyfer y byd gwaith a fydd gyda nhw am flynyddoedd lawer i ddod.

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd fedal, a da iawn i’n holl deilyngwyr o Coleg Gwent hefyd!

Enillwyr gwobr aur:

  • Lydia Beavis – Colur Cyfryngau Creadigol

Enillwyr gwobr arian:

  • Laura James – Colur Cyfryngau Creadigol
  • Teresa Hayes – Trin Gwallt

Canmolwyd yn arw:

  • Logan Cook – 3D Gêm Celf

 

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Hoffech chi gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK nesaf?

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cyd-fynd â WorldSkills UK. Mae’n dechrau yn 2024 ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau ar draws amrywiaeth o sectorau yng Nghymru. Gellir cymryd rhan yn y cystadlaethau am ddim, ac fe’u cynhelir fel arfer rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, gan fwydo i gystadlaethau WorldSkills UK nesaf. Dysgwch fwy am gymryd rhan neu cofrestrwch ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2024 i ddangos bod eich sgiliau chi cystal â’r goreuon.