En
Education & industry management at the launch of Cyber Colleges Cymru

Coleg Gwent a Choleg Seiber Cymru: ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol!


27 Chwefror 2020

Coleg Gwent a Choleg Seiber Cymru: ar gyfer y genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol!

Yn dilyn lansiad llwyddiannus Coleg Seiber Cymru’r wythnos hon gan Kirsty Williams AM: Y Gweinidog Addysg, mae Coleg Gwent yn falch o gyhoeddi manylion ein cwrs BTEC digidol cyffrous newydd yn swyddogol, y Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Cyfrifiadura.

Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn ffordd newydd sbon o ddysgu digidol sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddechrau cwrs astudio digidol arloesol sydd wedi ei arwain gan gyflogwyr. Mae’r cwrs yn cynnwys mewnbwn diwydiant sylweddol ynghyd â chwricwlwm ffres wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Choleg Seiber Cymru fel rhan o Raglen Mewnwelediad Strategol Llywodraeth Cymru.

Kirsty Williams AM: Education Minister at launch of Cyber College Cymru

Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda’n partneriaid diwydiant uchel eu parch, Admiral, Fujitsu a Thales, sydd wedi ein helpu i lywio’r cwricwlwm, a gyda’i gilydd, byddant yn cyfrannu dros fil o oriau i gefnogi blwyddyn gyntaf y cwrs (gan gynnwys mentora, darlithwyr gwadd, lleoliadau gwaith a phrofiad diwydiant). Ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n cael eu dewis ar gyfer Coleg Seiber Cymru, bydd y cwrs astudio arbennig hwn yn eu galluogi i ennill cymhwyster uchel ei barch sydd â galw mawr amdano, sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol i fod yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch.

Dywedodd Ian Millward, Cyfarwyddwr y Gyfadran Astudiaethau Academaidd a Menter:

“Mae cwrs Seiberddiogelwch Coleg Gwent yn dilyn 12 mis o drafodaethau a datblygiadau dwys gyda’i bartneriaid cyflogwyr allweddol, Fujitsu, Thales ac Admiral. Rydym wedi bod yn freintiedig iawn i fod â’r lefel uchel yma o ddiddordeb ac ymgysylltiad â chyflogwyr ac yn credu bod ein cwrs Seiberddiogelwch wedi ei ddylunio’n unigryw ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant proffidiol a chyffrous hwn.

Students at Cyber College Cymru launch

Mae’r cwrs Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn berffaith ar gyfer ymgeiswyr sydd:

  • Eisiau cwrs astudio sy’n cyfuno gwybodaeth cyfrifiadura a sgiliau ymarferol.
  • Yn frwd ynghylch gofynion technolegol newidiol y diwydiant
  • Wedi eu hysgogi gan anghenion diwydiant a chyflogwr er mwyn bod yn barod am y gweithle.
  • Eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes
  • Yn dymuno dilyn gyrfa neu astudiaethau pellach yn y byd Seiber neu ddiwydiannau digidol eraill

Os hoffech chi fod yn rhan o’r bennod gyffrous newydd hon mewn dysgu digidol, Coleg Gwent yn bendant, yw’r lle i chi! Cofrestrwch nawr i astudio ar y cwrs Diploma Cenedlaethol BTEC NEWYDD a chyffrous hwn mewn Cyfrifiadura drwy e-bostio student.recruitment@coleggwent.ac.uk a byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd ceisiadau yn agor.

www.coleggwent.ac.uk/seiber