En
Parliament Week UK Discussions

Coleg Gwent yn dathlu ymgysylltu myfyrwyr â maes gwleidyddiaeth trwy gynnal digwyddiad Newsnight ar gyfer Wythnos Senedd y DU


16 Tachwedd 2023

Dathlodd myfyrwyr Coleg Gwent Wythnos Senedd y DU drwy gynnal digwyddiad arbennig ar 10fed Tachwedd.

Arddangosodd y digwyddiad, a ysbrydolwyd gan y rhaglen deledu boblogaidd, Newsnight, bwysigrwydd cyfranogiad myfyrwyr ym maes gwleidyddiaeth wrth ddarparu platfform ar gyfer trafodaethau agored a diddorol ar faterion gwleidyddol o bwys.

Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mharth Dysgu Torfaen gan gynnwys panel o siaradwyr gwadd deinamig sef Nick Thomas-Symonds AS, Delyth Evans ac Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, a arweiniodd trafodaethau ar ystod o bynciau sy’n berthnasol i dirwedd wleidyddol heddiw.

Canolbwyntiodd y digwyddiad ar bynciau megis ymgysylltu ieuenctid â maes gwleidyddiaeth, rôl addysg wrth feithrin ymwybyddiaeth gwleidyddol, materion lleol a chenedlaethol sy’n effeithio ar fyfyrwyr ac effaith gweithgarwch myfyrwyr ar newid polisi.

Yn ogystal â’r trafodaethau panel, cymerodd dysgwyr ran mewn sesiwn holi ac ateb a dadl fyw a ddyluniwyd i annog myfyrwyr i leisio eu barn. Hefyd, cafodd dysgwyr Coleg Gwent a oedd yn bresennol gyfle i ofyn cwestiynau ac ymgysylltu ag aelodau’r panel mewn ffordd a oedd yn debyg i fformat rhaglen Question Time.

Fel rhan o fenter ehangach Wythnos Senedd y DU, dyluniwyd y digwyddiad hwn i godi ymwybyddiaeth ynghylch y rôl y gall myfyrwyr ei chwarae o ran dylanwadu ar y dirwedd wleidyddol.

Roedd tîm etholiadol Cyngor Torfaen hefyd yn bresennol er mwyn helpu myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio am y tro cyntaf yn ystod yr etholiad nesaf.

Parliament Week UK news Discussion

Dywedodd Elizabeth Jones, Tiwtor Llywodraeth a Gwleidyddiaeth yn Coleg Gwent: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn cynnal y digwyddiad cyffrous hwn yn ystod Wythnos Senedd y DU. Bydd ennyn diddordeb myfyrwyr ym maes gwleidyddiaeth a’u helpu i ddeall ei arwyddocâd yn helpu i’w grymuso i fod yn ddinasyddion â lefel uwch o wybodaeth, yn ddinasyddion gweithredol ac yn ddinasyddion sy’n ymgysylltu. Credwn, drwy hyn, ein bod yn helpu ein myfyrwyr i lwyddo yn academaidd a, hefyd, yn eu paratoi ar gyfer eu rolau yn y dyfodol fel aelodau cyfrifol o gymdeithas.”

Dywedodd Nick Thomas-Symonds AS: “Mae rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’r Senedd a maes gwleidyddiaeth yn brif flaenoriaeth i mi. Mae Wythnos Senedd y DU yn rhoi cyfle pwysig i ofyn cwestiynau i mi am y gwaith rwyf yn ei gyflawni ar ran pobl Torfaen a gwaith y Senedd yn gyffredinol.

“Dyna pam roeddwn mor falch i ymweld â Pharth Dysgu Torfaen a siarad â myfyrwyr am yr hyn rwyf yn ei wneud a gwrando ar eu pryderon a’u blaenoriaethau. Diolch i bawb a gymerodd ran am ei wneud yn brofiad mor werth chweil a diolch i’r staff am wneud hyn yn bosibl.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau gwleidyddiaeth, cliciwch yma.