En

Coleg Gwent ar y Trywydd Cywir gyda Phartneriaeth Reilffordd Newydd


6 Awst 2018

Coleg Gwent ar y Trywydd Cywir gyda Phartneriaeth Reilffordd Newydd

Coleg Gwent yn ffurfio partneriaeth gydag Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Rheilffyrdd (NSAR) i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith Cenedlaethol o Golegau (ar gyfer Rheilffyrdd).
Beth yw’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Rheilffyrdd?
Sefydlwyd NSAR i ddarparu rheilffordd fodern ac effeithlon drwy ddatblygu gweithlu eithriadol o fedrus a chynhyrchiol. Yn ddiweddar bu iddynt gyhoeddi eu rhaglen ‘Partneriaeth Hyfforddi Genedlaethol’ sy’n cofrestru Rhwydwaith o ‘Golegau Ddarparwyr Hyfforddiant
NSAR’ i integreiddio addysg i mewn i ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
Bydd Coleg Gwent yn ymuno rhai fel Rheilffordd a Thrafnidiaeth Cenedlaethol Cymru fel rhan o’r fenter hon.
A yw hyn yn effeithio ar y gweithlu yng Nghymru?
Yn ôl adroddiad NSAR ar ‘Weithlu sydd ar gael Heddiw’, mae’r nifer o weithwyr ifancach yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU yn y sector hwn.
Yn 2017, roedd 96 o unigolion o weithlu presennol y rheilffordd ar y targed o gyrraedd oed ymddeol, ond disgwylir i hyn gyrraedd 214 yn 2020. Mae hyn yn amlygu’r angen ac mae’r diwydiant rheilffordd yn croesawu’r cenedlaethau ifancach i drwytho i mewn i’r diwydiant rheilffordd i ddelio â’r bwlch sgiliau.
Sut mae Coleg Gwent yn chwarae rhan?
Mae Coleg Gwent wedi penderfynu ffurfio partneriaeth â NSAR i hyrwyddo gyrfaoedd a phrentisiaethau rheilffordd ymysg ein dysgwyr yma yn y coleg. Gall y bartneriaeth hon helpu i sicrhau gyrfa i’n myfyrwyr mewn rhai sefydliadau blaenllaw yn y diwydiant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant rheilffordd, cymerwch olwg ar ein cyrsiau galwedigaethol