En
LGBTQ+ History Month

Dathlu Mis Hanes LGBTQ+ 2021


25 Chwefror 2021

“Coleg Gwent yw’r unig le lle cefais fy nerbyn am yr hyn ydw i, ar unwaith. Rwy’n drawsryweddol, ac mae’r coleg wedi cadw golwg arna i i sicrhau fy mod yn iawn ac yn cyfeirio ataf fel y rhywedd cywir ym mhob man.” – Avery, cyn-fyfyriwr Celf a Dylunio 2019

Alumni Avery Marshall

Rydym yn ymfalchïo ar fod yn goleg cyfeillgar, croesawgar a chynhwysol lle gall pawb ymddwyn yn naturiol heb ofni barn. Felly, yn 2020, gwnaethom gymryd y camau cyntaf tuag at lunio strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd. Gwnaethom ddatblygu calendr blynyddol o weithgareddau i arddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth derbyniad a chynhwysiant.

I ddechrau arni, rydym yn dathlu Mis Hanes LGBTQ+ gydag ystod o weithgareddau drwy gydol mis Chwefror. Gwahoddir yr holl ddysgwyr a staff i ddangos eu cefnogaeth a chymryd rhan. Felly, dyma’r holl weithgareddau cadarnhaol a digwyddiadau cynhwysol sy’n digwydd drwy gydol y mis:

Hyfforddiant Stonewall – Cyflwyniad i gyfeillio

Mae’n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan wrth gefnogi addysg gynhwysol LGBTQ+. Felly, gwnaethom ddechrau’r mis gyda hyfforddiant staff gan Stonewall, sy’n hyrwyddo addysg gynhwysol i bawb. Roedd y sesiwn yn gyfle i staff fyfyrio ar eu gwaith cynhwysol LGBTQ+, p’un a ydynt yn diwtoriaid neu’n staff cymorth. Cawsant gyfle i ddysgu ffyrdd o wella fel cyfaill gweithgar i’r gymuned LGBTQ+, yn helpu i hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth ar y campws.

Gwisgo enfys

LGBTQ+ History MonthDrwy gydol y mis, roeddem yn annog dysgwyr a staff i ddangos eu cefnogaeth i gyd-ddisgyblion a chydweithwyr LGBTQ+ drwy anfon hunlun atom ar gyfer ein wal enfys o gefnogaeth. Gwnaethom uno drwy wisgo enfys gyda balchder, ac roeddem wedi derbyn llawer o hunluniau hwyliog a lliwgar gan bobl ar draws y coleg yn dangos eu cefnogaeth. Dyma ein cyfosodiad baner enfys o gefnogaeth!

Grwpiau cefnogi dysgwyr

Mae dysgu o bell o gartref yn her, yn enwedig o ran gwneud ffrindiau newydd a chymdeithasu â’ch cyd-ddisgyblion yn y coleg. Felly, er mwyn lleihau teimladau o unigedd a darparu cefnogaeth i’n dysgwyr LGBTQ+, rydym wedi creu grwpiau Teams ac Yammer. Mae cefnogaeth cymheiriaid yn bwysig er llesiant ein dysgwyr, ac mae’r grwpiau’n rhoi lle diogel i’n dysgwyr LGBTQ+ rannu eu profiadau gyda’i gilydd.

Hyfforddiant ymwybyddiaeth rhywedd

Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Hyfforddiant y llynedd, rydym wedi ymgysylltu â Milk Presents eto i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth rhywedd i staff ym mis Chwefror. Mae’r hyfforddiant yn hyrwyddo dealltwriaeth o gynhwysiant rhywedd cadarnhaol yn ein coleg, gan archwilio terminoleg a deddfwriaeth. Mae’r sesiwn hefyd yn cynnwys awgrymiadau da ac ymwybyddiaeth gyffredinol o hunaniaeth rhywedd, gan helpu i wneud Coleg Gwent yn fwy cynhwysol i ddysgwyr yn ogystal â staff.

Siaradwr gwadd, Mis Hanes LGBTQ+

Fel rhan o’n gweithgareddau Mis Hanes LGBTQ+, rydym yn falch iawn fod Matt Lindley, cyn-Beilot Sgwadron Brenhinol yr Awyrlu Brenhinol, yn ymuno â ni fel ein siaradwr gwadd. Yn ystod y sesiwn hon, bydd yn rhannu ei stori o fod yn un o’r peilotiaid hoyw agored cyntaf yn y lluoedd arfog – stori am gymell eich hunan ac agwedd benderfynol a arweiniodd at ei freuddwyd o ymuno â’r Awyrlu Brenhinol yn cael ei gwireddu. Bydd yn rhannu stori ysbrydoledig o sut yr addasodd yr Awyrlu Brenhinol ei ddiwylliant o un o elyniaeth at bersonél hoyw i dderbyn a chefnogi.

Hyrwyddwyr amrywiaeth

Diversity Champion badge designFel rhan o’n haddewid parhaus i fod yn goleg amrywiol a chynhwysol, rydym wedi nodi dysgwyr a staff fel Hyrwyddwyr Amrywiaeth. Byddant yn gwisgo ein bathodynnau Siarter Amrywiaeth gyda balchder, fel arwydd eu bod yn gyfaill i’r gymuned LGBTQ+. Felly, bydd unrhyw staff neu ddysgwyr LGBTQ+ yn gallu adnabod ein Hyrwyddwyr Amrywiaeth ar y campws yn hawdd a gwybod eu bod yn gyfeillgar ac ar gael i roi cymorth.

Bore coffi staff LGBTQ+ rhithiol

Ar 24 Chwefror, bydd staff LGBTQ+ yn dod at ei gilydd ar gyfer bore coffi rhithwir. Yn dilyn llwyddiant bore coffi anffurfiol y llynedd i gefnogi’r gymuned LGBTQ+ yn Coleg Gwent, roeddem yn awyddus i gefnogi lle diogel i staff LGBTQ+ gyfarfod a sgwrsio am unrhyw beth a phopeth, hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo.

Adnoddau llyfrgell

Er mwyn annog dysgwyr a staff i barhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, gwnaethom gasglu detholiad o adnoddau digidol y gall dysgwyr a staff eu gweld drwy’r dangosfwrdd llyfregll Roedd yr adnoddau hyn yn am ddim i’w defnyddio drwy gydol y mis ac yn helpu ein dysgwyr a’n staff i gefnogi a dod yn gynghreiriaid i’r gymuned LGBTQ+ drwy ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain.

Chwifio’r faner yn Teams

Ac yn olaf, er mwyn parhau i ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned LGBTQ+ yn Coleg Gwent, newidiodd staff eu cefndiroedd Microsoft Teams i liwiau a baneri enfys yn ystod cyfarfodydd. Nid yn unig y gwnaeth hyn godi ysbryd ein cyfarfodydd rhithwir, ond roedd hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant yn y coleg hefyd.

Virtual Team Meeting with rainbow backgrounds

Mae’r holl weithgareddau hyn yn ein helpu i ymdrechu tuag at fod yn goleg lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu am bwy ydynt ac rydym yn falch o gefnogi ein cymuned LGBTQ+. Mae digonedd o adnoddau addysgol, sgyrsiau, gweminarau a gwybodaeth ar y wefan Mis Hanes LGBTQ, a gallwch ddysgu mwy am gynhwysiant ac amrywiaeth yn Coleg Gwent yma.