En
Healthcare learners using training arms

Cefnogaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol


1 Hydref 2020

Injection training armMae myfyrwyr yng Ngholeg Gyrfa Iechyd Coleg Gwent wedi elwa o ychydig o offer newydd, a roddwyd gan y cyflenwr addysg feddygol arbenigol, Adam,Rouilly.

Ymhlith yr eitemau mae ‘braich pynjar pigiad’, a fydd yn helpu myfyrwyr i roi pigiadau’n ddiogel, ynghyd â stethosgopau a phosteri.

Mae Adam,Rouilly yn un o nifer o fusnesau sy’n cefnogi Coleg Gyrfa Iechyd Coleg Gwent. Mae Colegau Gyrfa’n gweithio’n agos gyda chyflogwyr er mwyn rhoi mewnwelediad i bobl ifanc i fyd gwaith a phrofiad bywyd go iawn.

Dywedodd Kate Tilyard, sy’n gyfrifol am Ddatblygiad Busnes y DU gydag Adam,Rouilly:

“Fel yr amlygwyd eleni, mae gyrfaoedd mewn gofal iechyd yn allweddol bwysig ac yn rhan greiddiol o’n cymunedau ehangach ledled y wlad. I gyd-fynd â’n gweledigaeth ein hunain ers ein sefydlu yn 1918, mae Coleg Gyrfa Coleg Gwent yn mynd i’r afael â rôl allweddol wrth hyfforddi arbenigwyr gofal iechyd newydd gyda phrofiadau byd gwaith go iawn, sy’n hollbwysig. Gobeithiwn barhau i ddatblygu ein perthynas gyda’r Coleg, sy’n berthynas lwyddiannus eisoes, er mwyn ysbrydoli a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr meddygol proffesiynol.”

Injection training armYchwanegodd Rachel May, Cyfarwyddwr Cyfraniad Cyflogwyr yn yr Ymddiriedolaeth ar gyfer Colegau Gyrfa:

 “Rydym yn eithriadol o ddiolchgar i Adam,Rouilly am eu cyfraniad caredig o offer a’u cefnogaeth ehangach i Coleg Gwent a’r cysyniad Colegau Gyrfa. Mae ymgysylltiad â chyflogwyr yn hanfodol os yw pobl ifanc am gael dealltwriaeth wirioneddol o realiti byd gwaith. Mae nifer helaeth o ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi colegau ac yn sicr mae Adam,Rouilly yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

“Gobeithiwn y gall busnesau eraill, o unrhyw faint, weld manteision amlwg bod yn rhan o’r Colegau Gyrfa a dilyn esiampl Adam,Rouilly. Mae’n fuddugoliaeth wirioneddol i bawb sy’n ymwneud â’r peth ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas hon dros y flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Maria Johnson, Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Coleg Gwent:

“Mae’r tîm Gwyddoniaeth sydd wedi’i leoli ar Gampws Parth Dysgu Torfaen yn ddiolchgar iawn i Adam,Rouilly am eu cyfraniad caredig o offer a’u cefnogaeth ehangach i Coleg Gwent a’r cysyniad Colegau Gyrfa. Bydd ein dysgwyr yn manteisio’n helaeth o’r math hwn o gyfraniad wrth iddynt anelu at ddod yn weithwyr meddygol proffesiynol y genhedlaeth nesaf.”

Mae gan Ymddiriedolaeth y Colegau Gyrfa rwydwaith o Golegau Gyrfa ledled y wlad. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd gwych mewn sectorau sy’n tyfu drwy gefnogi cyflogwyr a cholegau i gydweithio gyda’i gilydd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.careercolleges.org.uk os gwelwch yn dda.

Os yw gyrfa yng ngofal iechyd yn mynd â’ch bryd chi, porwch ein cyrsiau ac ymgeisiwch nawr i ddechrau eich gyrfa.

 

Delweddau: Lluniau gan Adam,Rouilly