En
Brickwork competition

Profi sgiliau myfyrwyr trwy ein cystadleuaeth bricwaith


7 Mawrth 2023

Mae ysbrydoli ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a gwella lefelau eu hyder yn barhaus yn bwysig iawn i ni fel coleg. Dyna pam ein bod ni wedi cynnal cystadleuaeth sgiliau bricwaith ar gampws Casnewydd yn ddiweddar i alluogi myfyrwyr Lefel 1 a 2 i brofi eu sgiliau.

Dan oruchwyliaeth tiwtor bricwaith, Carl Curtis, cymerodd dysgwyr ran mewn cystadleuaeth yn erbyn y cloc i adeiladu wal ddeniadol a gweithredol gan ddefnyddio’r wybodaeth y maent wedi’i hennill dros fisoedd diwethaf eu hastudiaethau.

Noddwyd y gystadleuaeth gan nifer o gyflogwyr sy’n bartneriaid y Coleg sef Gwent Construction Training Group, Y Prentis a St Modwen Homes, gan roi eu hamser i ddod i’r digwyddiad a darparu gwobrau ar gyfer y 3 myfyriwr gorau ar bob lefel.

Yr enillwyr cyffredinol oedd:

Lefel 1

1af: TJ Winmill

2il: Anthony Haines

3ydd: Cameron Thompson

Level 1 Winners

Lefel 2

1af: Aaron Boardman

2il: Logan McGregor

3ydd: Martyn Murphy

Level 2 Winners

Wrth siarad am y gystadleuaeth a lefel y sgiliau, dywedodd Stewart Tossell, Uwch-reolwr Safle, St Modwen Homes:

“Roedd cael ein gwahodd gan Coleg Gwent i wylio’r Gystadleuaeth Sgiliau Bricwaith ar ran St. Modwen Homes yn wych. Cefais fy syfrdanu gan y gwaith a gwblhawyd i safon ardderchog a lefel ymgysylltu’r bobl ifanc. Mae dyfodol gosod briciau yn y rhanbarth hwn yn wych ac mae wedi’i gefnogi’n dda gan Coleg Gwent.”

Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn elfen allweddol o’r hyn rydym yn ei wneud yn Coleg Gwent i roi ysbrydoliaeth a phrofiad i’n dysgwyr ac i sicrhau ein bod ni’n diwallu gofynion sgiliau’r dyfodol yn ein hardaloedd lleol. Rydym yn ffodus i gael cynifer o gyflogwyr lleol ardderchog yn ein cefnogi yn y gwaith hwn ac mae eu cefnogaeth yn rhoi budd i bawb sy’n cymryd rhan.

Wrth siarad am eu gwaith gyda’r coleg, dywedodd Darryl Williams, Rheolwr Rhaglen, Y Prentis:

“Mae Y Prentis wrth eu bodd i noddi’r cystadlaethau am eu bod yn arddangos doniau a sgiliau myfyrwyr a thiwtoriaid y coleg ac mae’n magu hyder. Rydym bob amser yn chwilio am ymgeiswyr o safon ar gyfer ein cyfleoedd prentisiaethau.”

Llongyfarchiadau enfawr i’n henillwyr ac i’n holl ddysgwyr dawnus a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Hefyd, diolch yn fawr iawn i’n cyflogwyr sy’n bartneriaid am eu cefnogaeth barhaus.