En

Wythnos Derbyn Awtistiaeth: Dathlu myfyrwyr a staff Awtistig


6 Ebrill 2023

Wythnos Derbyn Awtistiaeth: Dathlu myfyrwyr a staff Awtistig ac adeiladu amgylchedd coleg cefnogol

Yr wythnos diwethaf gwnaethom ddathlu Wythnos Derbyn Awtistiaeth, cyfle i gynyddu dealltwriaeth a derbyniad pobl Awtistig. Mae mwy nag un o bob 100 o bobl yn Awtistig, ac mae tua 700,000 o oedolion a phlant Awtistig yn y DU. Yma yn Coleg Gwent, rydym yn gwybod bod ein coleg yn cynnwys amrywiaeth o bobl a gweithiwn yn galed i greu amgylcheddau diogel sy’n gweddu i anghenion ein dysgwyr a’n staff Awtistig.

Mae awtistiaeth yn ffordd arall o fod yn ddynol. Mae’n wahaniaeth niwrolegol o fewn y boblogaeth ddynol sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl Awtistig yn profi ac yn rhyngweithio â’u hamgylchedd. Mae pob person Awtistig yn wahanol ac mae gan bob un ei ffordd unigol o fod yn y byd.

Beth ydym ni’n ei wneud i adeiladu amgylchedd coleg cefnogol?

Y llynedd, penododd y coleg Rhys Lewis fel Hyfforddwr Awtistiaeth i helpu cefnogi staff a dysgwyr Awtistig. Mae Rhys yn gweithio ar draws y pum campws ac yn defnyddio ei wybodaeth a’i sgiliau i weithio gyda dysgwyr Awtistig i’w galluogi i fynd ymhellach yn ystod eu hamser yn y coleg.

Yn ystod Wythnos Derbyn Awtistiaeth, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o sut beth yw bod yn Awtistig ac wedi cynnal cyfres o sesiynau coffi ar gampysau ac ar-lein gyda’r elusen leol Hope GB er mwyn annog derbyniad Awtistiaeth ar draws ein coleg. Mae dros 100 o ddysgwyr a staff wedi mynychu’r digwyddiadau a drefnwyd ochr yn ochr â’n dysgwyr Awtistig gan ddilyn y dull dylunio cyffredinol er mwyn sicrhau hygyrchedd i bob mynychwr.

Yn ystod y digwyddiadau, cafodd y mynychwyr eu hannog i wylio cyfres o fideos ar ymwybyddiaeth Awtistiaeth cyn cwblhau cwis i helpu cymuned ein coleg i ennill gwell derbyniad, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.

Awgrymiadau ar sut i fod yn gynghreiriad a chefnogi pobl Awtistig:

1. Addysgu’ch hun

Y cam cyntaf tuag at fod yn gynghreiriad yw dysgu. Cymerwch yr amser i ymchwilio a darllen am Awtistiaeth, gan gynnwys siarad â phobl Awtistig am eu profiadau personol a’u heriau.

2. Parchu gwahaniaethau

Mae pob unigolyn yn profi awtistiaeth yn wahanol, felly mae’n hanfodol cydnabod a pharchu’r gwahaniaethau hyn. Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un person yn gweithio i rywun arall. Cydnabyddwch fod gan bawb eu cryfderau a’u heriau, ac y dylid cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw.

3. Gwrando a bod yn amyneddgar

Efallai y bydd rhai pobl Awtistig yn cael trafferth gyda chyfathrebu cymdeithasol, felly mae’n hanfodol gwrando’n ofalus ac aros yn amyneddgar wrth ryngweithio â nhw. Ceisiwch osgoi torri ar eu traws a rhoi amser iddyn nhw brosesu ac ymateb. Mae bod yn ymwybodol o naws eich llais ac iaith eich corff hefyd yn hanfodol, oherwydd gall y rhain effeithio ar sut rydych chi’n cael eich gweld ganddyn nhw.

4. Bod yn gynhwysol

Efallai na fydd rhai pobl Awtistig yn dechrau rhyngweithiadau cymdeithasol, felly gall cymryd y cam cyntaf i’w cynnwys mynd yn bell o ran gwneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn cael eu derbyn a’u cynnwys. Os ydych chi’n cynllunio digwyddiad, gofynnwch i bobl Awtistig a fyddan nhw’n hoffi unrhyw newidiadau i’r amgylchedd – gallai hyn gynnwys creu amgylchedd synhwyraidd-gyfeillgar trwy ystyried goleuadau, sŵn a threfniadau eistedd.

5. Osgoi rhagdybiaethau a stereoteipiau

Peidiwch a chymryd yn ganiataol, os yw rhywun yn Awtistig, nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymdeithasu neu’n analluog i wneud rhai pethau.

6. Dangos empathi a dealltwriaeth

Gall dangos cefnogaeth a dealltwriaeth fynd yn bell o ran gwneud pobl Awtistig deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u derbyn.

Yma yn Coleg Gwent rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer dysgwyr a staff Awtistig sy’n groesawgar ac yn gefnogol. Mae hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant o fudd i bawb, nid yn unig ein myfyrwyr Awtistig. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i greu amgylchedd coleg cefnogol sy’n dathlu ac yn gwerthfawrogi pob unigolyn, waeth beth fo’u gwahaniaethau.

Dysgwch am y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr Awtistig yn Coleg Gwent yma, neu dewch i un o’n digwyddiadau agored sydd ar y gweill i gwrdd â’n staff cymorth. Ewch i www.coleggwent.ac.uk/agored er mwyn cofrestru.