En
Teagan and Matthew

Coleg Gwent yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau


9 Chwefror 2024

“Hwn fydd tair blynedd orau eich bywyd”

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau eleni (05 – 11 Chwefror), mae Coleg Gwent yn tynnu sylw at ddau o’i 602 dysgwr prentisiaeth — gan ddangos cefnogaeth at lwybr amgen i addysg uwch ar draws campysau Parth Dysgu Blaenau Gwent, Casnewydd a Crosskeys.  

Gyda mwy na 400 partner prentisiaeth yn gweithio gyda’r Coleg (gan gynnwys y GIG, Biffa, a Tai Calon), a dros 14 rhaglen prentisiaeth ar gael; gall dysgwyr ddatblygu sgiliau, ennill profiadau byd go iawn a gweithio tuag at gymhwyster llawn wrth ennill cyflog.  

Dewisodd Matthew Ford, 22, o Drefynwy ymgymryd â’r brentisiaeth Cerbydau Modur ar ôl datblygu angerdd dros geir trwy weithio arnynt gyda’i dad o oedran ifanc. Dywedodd Matthew: “Rydw i  wastad wedi bod yn fwy ymarferol nag academaidd — fel dysgwr gweledol, roeddwn i angen rhywbeth gallwn i gael fy nwylo arno, ac i ddysgu mewn amser real.  

“Cefais gynnig y lle yn Coleg Gwent drwy’r gwaith i ddechrau, ond nawr, dydw  i ddim yn gallu dychmygu bod yn unman arall. Mae’r tiwtoriaid yn ardderchog, ac mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau — gan gynnwys rhai na fyddech chi erioed wedi meddwl eu bod yn berthnasol i geir!” 

Matthew Apprenticeship

Gan ddewis astudio yn Coleg Gwent ar ôl gweld cyfradd llwyddiant prentisiaethau eraill ledled y coleg, ymunodd Teagan Whiteman, 18, â’r brentisiaeth Ailorffen Cerbydau yn ddiweddar.  

Gan drafod eu profiad, dywedodd Teagan: “Mae gen i gariad ac angerdd mawr at geir, felly pan wnes i ddarganfod y gallaf gyfuno fy angerdd ag ennill cymwysterau, cwrdd â phobl newydd ac ennill fy arian fy hun — doedd dim rhaid i mi feddwl dwywaith. 

“Mae astudio prentisiaeth hefyd yn golygu y galla i osgoi’r dyledion sy’n gysylltiedig â’r brifysgol. 

“Mae fy nhiwtoriaid yn uchelgeisiol ac yn gynorthwyol – maen nhw’n fy annog i wneud fy ngorau bob amser. Fe wnaethon nhw hyd yn oed fy ysgogi i ail-sefyll fy TGAU mathemateg, gan roi’r cyfle gorau posib i mi lwyddo y tu allan i fy mhrentisiaeth.”  

Teagan Apprenticeship

Mae prentisiaethau Coleg Gwent yn agored i drigolion Cymru sy’n 16 oed neu’n hŷn ac sy’n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos mewn sector diwydiant.  

Dywedodd Jon Hayward, Pennaeth Prentisiaethau Coleg Gwent: “Rydym yn deall nad yw dysgu amser llawn yn yr ystafell ddosbarth at ddant pawb — a dyna pam mae datblygu ein rhaglen prentisiaeth wedi bod mor bwysig yma yn Coleg Gwent.  

“Rydym ni’n gallu cefnogi myfyrwyr o fewn amgylchedd sy’n gweithio iddyn nhw, tra hefyd yn cryfhau’r gweithlu lleol trwy gysylltu dysgwyr dawnus â’u diwydiannau o ddewis. 

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd cyson mewn nifer y prentisiaid benywaidd ar y rhaglen, sydd wedi bod yn wych gan ein bod yn ymfalchïo mewn cael rhaglen prentisiaeth sy’n annog pawb i gymryd y cam nesaf tuag at eu gyrfa ddelfrydol. ” 

Er eu bod wahanol gyrsiau, mae Matthew a Tegan yn rhannu cyngor tebyg i’r rheini sy’n dymuno ymgymryd â phrentisiaeth. Dywedodd Teagan: “Byddwn i’n annog unrhyw un sydd ddim yn siŵr beth maen nhw eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol – neu hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol – i gymryd golwg ar y prentisiaethau a gynigir gan y Coleg gan fod rhywbeth at ddant pawb yma.” 

Parhaodd Matthew: “Just ewch amdani. Dyma fydd tair blynedd orau eich bywyd a byddwch yn cerdded i ffwrdd yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth — byddwch wedi ennill sgiliau, ffrindiau, a chymhwyster am oes.” 

I ddysgu rhagor am y rhaglenni prentisiaeth yn Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/ein-cyrsiau/apprenticeships