En

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Mae’r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn darparu cefnogaeth i ddysgwyr ag anawsterau neu anableddau a allai fod angen darpariaeth cymorth sy’n ychwanegol at y gefnogaeth gyffredinol a ddarperir i bob dysgwr.

Os oes gan eich mab/merch Gynllun Datblygu Unigol (CDU) gofynnwch i’r ysgol ein gwahodd i’w (h)adolygiad.

Os ydych chi'n credu y gallai fod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eich mab neu ferch yn y coleg, cysylltwch â ni:

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi gysylltu â ni:

Cefnogwch eich plentyn gyda’i gais coleg ar-lein, gwnewch yn siŵr ei fod yn dweud wrthym am ei anawsterau a/neu ei anableddau, a’r gefnogaeth a gafodd yn yr ysgol – bydd ei gais yn cael ei basio i’r ALSCo.

Dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Rydym yn defnyddio dull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i weithio gyda phobl ifanc, eu teuluoedd a’u hysgolion i nodi anghenion unigol. Er mwyn sicrhau bod person ifanc yn cael y cymorth gorau, gofynnwn am dystiolaeth o’i anghenion cymorth dysgu a/neu anghenion meddygol/corfforol gan ei ysgol ac unrhyw asiantaethau perthnasol eraill sy’n eu cefnogi. Rydym yn cyfleu gwybodaeth am anghenion cymorth unigolion i’r staff sy’n gweithio gyda nhw i’w helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac adolygir y gefnogaeth o leiaf unwaith y flwyddyn.

I lawer o’n dysgwyr, mae cwrs coleg yn cynnig cyfle addysg a hyfforddiant pwysig, cyn cyflogaeth a/neu fywyd fel oedolyn. Yn Coleg Gwent, credwn ei bod yn hanfodol annog pobl ifanc i ddod mor annibynnol â phosibl, yn eu dysgu ac yn eu sgiliau bywyd.  Mae ein dull, er ei fod yn gefnogol, wedi’i gynllunio i annog y dysgwyr i beidio â dibynnu ar eraill ac i arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r strategaethau y gallant eu defnyddio yn y coleg a phan fyddant yn oedolion.

Rydym yn darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc ac oedolion o bob oed. Rydym yn cynnig amgylchedd agored sy’n gweddu i anghenion pobl ifanc sy’n gallu rheoli eu hymddygiad a’u lles yn y math hwn o leoliad. Ein nod yw cefnogi anghenion addysg a hyfforddiant ein holl ddysgwyr, fodd bynnag, nid ydym yn gallu cynnig therapïau na gwasanaethau arbenigol iawn fel:

  • Therapi iaith a lleferydd
  • Ffisiotherapi
  • Therapi Galwedigaethol
  • Therapïau siarad arbenigol
  • Hydrotherapi
  • Therapi adlam

Fodd bynnag, rydym yn hapus i weithio gyda darparwyr eraill, megis gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, lle mae hyn yn hyrwyddo lles a/neu gynnydd dysgwr.

Mae Braenaru ADY yn adnodd Addysg Bellach cydweithredol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r wefan yn cynnwys fideos ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc sy’n symud ymlaen i’r coleg.

Cydweithio

Mae lles a llwyddiant eich plentyn tra ei fod yn ein gofal yn hynod bwysig i ni. Ein nod yw rhoi’r un cyfle i bawb lwyddo, beth bynnag fo’u hil, crefydd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oedran.

Fel rhiant, mae gennych rôl bwysig yn nyfodol eich plentyn. Felly byddwn yn eich hysbysu’n llawn am gynnydd eich mab neu ferch trwy nosweithiau rhieni, llythyrau ac adroddiadau rheolaidd. Gallwch gael mynediad at eu Cynllun Dysgu Unigol electronig (eILP), trwy ofyn iddynt am y manylion mewngofnodi, a fydd yn dangos i chi sut maen nhw’n gwneud yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt gyda’u tiwtor.

Yn ogystal â’u cynnydd, rydym yn monitro eu presenoldeb, eu cymhelliant a’u lles yn gyson, ac o bryd i’w gilydd yn cynhyrchu adroddiadau a anfonir atoch yn uniongyrchol. Rydym bob amser yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, ac mae ein Noson Rieni flynyddol ar bob campws yn rhoi cyfle i chi siarad â darlithwyr pwnc a thiwtoriaid personol.

Rydym eisiau i’n myfyrwyr gymryd rhan uniongyrchol mewn asesu a llunio eu profiad yn y coleg, a rhoi amrywiaeth o gyfleoedd iddynt gymryd rhan – ac rydym wedi ennill sawl gwobr am hynny.

Dylai pawb fwynhau eu hamser yn y coleg, ac rydym yn disgwyl i’n holl fyfyrwyr ymddwyn yn dda a pharchu eraill. Rydym yn gweithredu Polisi Disgyblu Dysgwyr ffurfiol fel y nodir isod, er y gall materion difrifol arwain at waharddiad cerdyn coch yn y fan a’r lle. Lle bo’n briodol, byddwn hefyd yn eich cynnwys chi yn y broses.

Mae yna bedwar cam fel arfer:

  • Cam anffurfiol – nodyn pryder
  • Cam ffurfiol 1 – cerdyn melyn
  • Cam ffurfiol 2 – cerdyn coch
  • Cam ffurfiol 3 – gwrandawiad disgyblu

Mae’n bwysig bod pob myfyriwr yn anelu at bresenoldeb a phrydlondeb o 100%, gan y gallai cofnod gwael arwain at broblemau wrth gael grantiau neu hyd yn oed gwaharddiad o arholiadau. Os nad yw myfyriwr yn gallu bod yn bresennol yn y coleg am unrhyw reswm, mae rhaid iddo ef/iddi hi roi gwybod i’r tiwtor trwy adael neges gyda’r campws.

Bydd cyrraedd 10 munud ar ôl dechrau gwers yn cael ei ddosbarthu fel ‘hwyr’; rhaid esbonio unrhyw absenoldebau tymor byr trwy nodyn salwch; a dylid gwneud apwyntiadau cyffredin y tu allan i oriau’r coleg. Mae salwch sy’n para mwy nag wythnos yn gofyn am anfon tystysgrif feddygol gan eu meddyg at eu tiwtor personol, fel nad ydynt yn colli eu lle ar y cwrs. Ar ôl absenoldeb o bedair wythnos, byddwn yn cymryd bod eich plentyn wedi tynnu’n ôl o’r cwrs.

Beth bynnag yw’r rheswm, gwnewch yn siŵr nad yw eich plentyn yn stopio mynd i’r coleg. Os yw eich plentyn yn cael problemau, mae ei diwtor personol a’r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yno i helpu.