Cymorth Dysgu Addysg Uwch

Eich cefnogi chi

Mae gennym ni ddigonedd o wasanaethau cymorth ar gael, p’un a oes angen cymorth arnoch gyda phrawfddarllen eich gwaith, cymorth hygyrchedd neu sesiynau ychwanegol i gynorthwyo gydag aseiniadau, rydym yma i helpu!

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Wedi i chi gael cadarnhad gan Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr, os ydych wedi cofrestru anhawster dysgu a/neu anabledd, gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth.

Gallai hyn gynnwys:

  • Cymorth yn y dosbarth gan Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol
  • Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs
  • Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (i fyfyrwyr byddar)
  • Cymorth Dyslecsia
  • Defnyddio meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol
  • Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau

Os oes angen cymorth arnoch, siaradwch â’ch Tiwtor Personol, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol y campws (ALNCo) neu’r swyddog Cynnydd Addysg Uwch.

Tiwtoriaid Personol

Fel dysgwr addysg uwch, cewch gymorth unigol gan diwtor personol o ddechrau eich taith yn Coleg Gwent. Cewch diwtorialau rheolaidd a bydd eich tiwtor yn monitor eich cynnydd yn agos ac yn eich cefnogi drwy eich astudiaethau yn y coleg. Bydd eich tiwtor yn eich cynorthwyo i deimlo’n gartrefol yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth drwy unrhyw gyfnodau anodd a dathlu llwyddiannau.

Swyddogion Cynnydd Addysg Uwch

Ar bob campws mae gennym Swyddog Cynnydd Addysg Uwch a fydd yn eich cefnogi gydag arweiniad academaidd a bugeiliol drwy gydol eich rhaglen astudio. Mae Swyddogion Cynnydd Addysg Uwch yn ymroddedig i’ch cefnogi chi drwy unrhyw anhawster, sy’n cynnwys eich cyfeirio at ein timau arbenigol perthnasol. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:

  • Sgiliau astudio
  • Cefnogaeth academaidd
  • Problemau gyda phresenoldeb
  • Cyngor ariannol
  • Ymdopi â straen a gorbryder