En

Lwfans Myfyriwr Anabl

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol. Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn grantiau nad ydynt yn dibynnu ar brawf modd ar gyfer helpu i dalu’r costau ychwanegol hanfodol sydd gennych oherwydd eich anabledd.

Gallwch ymgeisio am Lwfans Myfyriwr Anabl trwy lenwi Ffurflen DSA1 ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Yno hefyd cewch fwy o wybodaeth am y cyllid a’r cymorth ariannol sydd ar gael.

Bydd y Swyddogion Cynnydd Addysg Uwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch Cymorth Anabledd i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru..

Campws Brynbuga
sally.parkinson-cribb@coleggwent.ac.uk

Campws Casnewydd
kelly.gallier-morgan@coleggwent.ac.uk

Parth Dysgu Blaenau Gwent
hannah.cadman@coleggwent.ac.uk

Campws Crosskeys
alan.royle@coleggwent.ac.uk

Parth Dysgu Torfaen
sally.parkinson-cribb@coleggwent.ac.uk