En

Sut i wneud cais am Brentisiaeth

Application process icons

Wedi i chi ddod o hyd i brentisiaeth sydd o ddiddordeb i chi, mae ymgeisio yn broses rwydd – cysylltwch â ni dros y ffôn neu ebost i ofyn am ffurflen gais, ac fe eglurwn y broses yn llawn i chi.

Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777. Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk.

Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei ddarparu.

Beth fydd eich cyflogwr yn ei wneud

Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein Haseswyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn siarad gyda’ch cyflogwr i drafod y gwaith y bydd angen i chi ei wneud i gyflawni eich Prentisiaeth. Hefyd, bydd angen iddynt lofnodi Cytundeb Tair Ffordd a bodloni’r gwiriadau iechyd a diogelwch hanfodol cyn y gallwch gofrestru.

Cofrestru ar eich cwrs

Pan fydd popeth yn ei le, byddwn yn darparu amser a lle i chi gofrestru. Bydd angen i chi ddod â’r dogfennau canlynol gyda chi:

  • Cerdyn Yswiriant Gwladol plastig, llythyr CThEM neu Basbort Llawn
  • Tystysgrif eich Cymhwyster Uchaf
  • Slip cyflog diweddaraf / cytundeb cyflogaeth / gohebiaeth gan gyflogwr
  • Trwydded yrru (lawn neu dros dro) neu dystysgrif geni
  • Tystiolaeth o gyfeiriad cartref

Os ydych yn ansicr ynghylch beth sydd angen i chi ddod gyda chi, cysylltwch â ni ar 01495 333777 neu apprenticeships@coleggwent.ac.uk.