En

Cyllid

Y cyllid cywir ar gyfer eich hyfforddiant.

Mae llwyddiant yn hanfodol ar gyfer dyfodol eich busnes, ac mae datblygiad a hyfforddiant eich staff yn rhan annatod o hynny.

Rydym yn gweithio gyda saith corff cyllido lleol a chenedlaethol, ac mae gennym amrywiaeth o opsiynau i’ch helpu chi gyflawni eich amcanion. Bydd ein cynghorwyr proffesiynol yn eich cefnogi a’ch arwain at y corff cywir ar gyfer eich busnes.

play

Mae Uwchsgilio@Waith yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a’i bwrpas yw gwella sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y gweithle mewn busnesau ledled Cymru. Mae’n darparu cyfleoedd i gyflogwyr ennill cymwysterau achrededig yn ogystal ag uwchsgilio’r gweithlu drwy gynnig hyd 70%* o gyllid ar gyfer cyrsiau achrededig. Mewn rhai achosion, ac am gyfnod cyfyngedig, gallai’r cyllid dalu am 100% o’r ffioedd cwrs!

 

Upskilling@Work logo

Y Buddion i Chi

Mae hyfforddiant drwy Uwchsgilio@Waith yn cael ei arwain yn llwyr gan alw, sy’n golygu ei fod wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion eich tîm yn llwyr a chael ei ddarparu yn brydlon ac mewn lle sy’n gyfleus i’ch sefydliad. Gellir cynnal hyfforddiant ar bob lefel, o Lefel Mynediad 1 yr holl ffordd i Lefel 6. Bydd yr hyfforddiant o gymorth i’ch gweithlu i ennill y sgiliau swydd benodol sydd eu hangen i feithrin twf, gwella cynhyrchiant a chynyddu elw.

Pa gyrsiau sydd ar gael?

Y newyddion gwych yw bod Uwchsgilio@Waith yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan gynnwys cymwysterau NVQ, hyfforddiant wedi’i achredu gan ILM a llawer mwy. Ymhlith rhai o’n cyrsiau mwyaf poblogaidd mae:

Dyfarniad Highfield Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo neu Weithgynhyrchu

Dyfarniad Highfield Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo neu Weithgynhyrchu

Dyfarniad Highfield Lefel 4 mewn Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo neu Weithgynhyrchu

Dyfarniad ILM Lefel 2, 3 neu 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Tystysgrif ILM Lefel 3 neu 5 mewn Hyfforddi a/neu Fentora Effeithiol

Dyfarniadau Asesydd a Dilysydd NVQ City & Guilds

Diplomâu NVQ Lefel 2 neu 3 EAL mewn Peirianneg Cynnal a Chadw

Diplomâu NVQ Lefel 2 neu 3 EAL mewn Saernïo a Weldio

Diploma NVQ Lefel 2 neu 3 City & Guilds mewn Lletygarwch ac Arlwyo

Rydym hefyd yn cynnig ystod o gymwysterau NVQ mewn Gwasanaethau Cwsmer, Gweinyddu Busnes, Rheolaeth a llawer mwy.

Dylai unrhyw fusnes – sector preifat neu gyhoeddus, mawr neu fach – yn ardal dde-ddwyrain Cymru fod yn gymwys i gael y cyllid hwn.  Fodd bynnag, mae rhai o’r meini prawf cymhwysedd yn benodol, felly sicrhewch eich bod yn cysylltu am ragor o wybodaeth.

Dysgwch fwy drwy ffonio ein hadran Uwchsgilio@Waith ar 01495 333777 neu drwy e-bostio employers@coleggwent.ac.uk.

*Bydd swm y cyllid yn dibynnu ar faint a chymhwysedd y busnes

 

Mae’r Cynllun Gweithredu ar Dddiswyddiadau (ReAct), a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a chefnogi’r gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cynhnig cymorth i unigolion sydd yn byw yng Nghymru i fagu sgiliau, gorchfygu heriau a gwella eu gobaith o ddychwelyd at waith yn yr amser lleiaf bosib yn dilyn diswyddo.

Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn ystod y 3 mis diwethaf, efallai y gall cynllun ReAct gynnig grant o hyd at £1,500 at becynnau cymorth i’ch helpu chi fagu sgiliau newydd ac ailhyfforddi neu newid gyrfa.

Darganfyddwch mwy – Bydd Gyrfa Cymru yn gallu eich arwain chi drwy’r broses ynghyd â Phorth Sgiliau i Fusnes ar 0800 028 4844. Os ydych yn cofrestru ar gyfer y cyrsiau drwy ReAct, bydd ein tîm Datblygu a Rheoli yn eich helpu chi i gwblhau’r ffurflen gais. Cysylltwch â ni ar 01495 333777 neu drwy e-bost yn employers@coleggwent.ac.uk

Os ydych yn ffermwr neu’n goedwigwr, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth a gwasanaethau sydd wedi eu hariannu’n llawn i weddnewid eich rhagolygon.
Mwy o wybodaeth yma businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy.

Helpwch i siapio ein cwricwlwm ar gyfer y cyrsiau hyn sydd wedi’u hariannu’n llawn a llenwi bylchau sgiliau’r dyfodol.

Rhagor o wybodaeth