En

Prentisiaethau

Man in orange hi vis jacket
play

Prentisiaethau. Hyfforddiant am ddim i'ch busnes.

Mae Prentisiaethau yn wych i’ch busnes. Maent yn helpu eich gweithwyr i ennill sgiliau ymarferol a chymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant, fel eu bod yn gwella eu perfformiad. Ac yn well na hynny, gallwch fanteisio ar y cynllun am ddim os yw eich busnes yng Nghymru!

Byddwn yn gweithio gyda chi er mwy’n teilwra’r cynllun Prentisiaeth i fodloni eich anghenion. Mae dewis amrywiol o gyrsiau yn cynnwys, adeiladu, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Os oes gennych weithiwr mewn golwg, sicrhewch eu bod yn cofrestru ar-lein neu fe allwn ni eich helpu i ddod o hyd i brentis. Darganfyddwch fwy drwy e-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk  neu ffonio 01495 333777.

Mae 86% o gyflogwyr wedi dweud bod prentisiaethau wedi datblygu sgiliau a oedd yn berthnasol i’r sefydliad

Dywedodd 78% bod cynnydd mewn cynhyrchiant

Mae 90% o brentisiaid yn aros yn eu gweithle ar ôl cwblhau’r brentisiaeth

Mae prentisiaid yn cynyddu’r elw ar fuddsoddiad, ac yn symud ymlaen at swyddi uwch yn aml. Mae llawer yn ymgymryd â lefel hyfforddiant uwch

  • Hyfforddiant am ddim yn berthnasol ac yn uniongyrchol i’ch busnes
  • Hyfforddiant yn cyrraedd safonau a gydnabyddir gan ddiwydiant
  • Sgiliau sy’n benodol i’ch diwydiant
  • Sgiliau i ymdopi â thechnoleg a marchnadoedd newydd
  • Ffordd o fynd i’r afael a phrinder sgiliau
  • Cynhaliaeth staff
  • Cynnydd yn hyder ac ysbryd staff
  • Gweithlu mwy ymatebol a brwdfrydig.

Rydym yn cynnig dwy lefel wahanol o Brentisiaeth yn Coleg Gwent: Prentisiaeth Sylfaenol (cyfwerth â phump TGAU, Gradd A-C) a Phrentisiaeth (cyfwerth â dwy Lefel A). Mae’r ddwy yn cynnwys:

Cyflogi’r prentis am o leiaf 16 awr yr wythnos, rhoi cytundeb cyflogaeth iddynt a’u cyflogi yn ôl gofynion isafswm cyflog cenedlaethol

Cefnogi’r prentis ym mhob agwedd o’r Rhaglen Ddysgu

Caniatau i staff Coleg Gwent ymweld â’ch busnes drwy gyd-ddealltwriaeth, er mwyn asesu a thrafod datblygiad gyda’r Prentis

Caniatáu’r Prentis i fynychu’r coleg hyd ddiwedd y cynllun

Arsylwi holl ofynion iechyd a diogelwch

Cynorthwyo’r staff yn ystod asesiad y prentis gan ddarparu adborth ar eu cynnydd, agwedd a datblygiad o fewn y swydd.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i gynnig Prentisiaethau ar lefel Sylfaenol a lefel Prentisiaeth, o gwmnïau bach, preifat i sefydliadau rhyngwladol, mawr. Does dim cyfyngiadau ynghylch maint y cyflogwr, a does dim cyfyngiad ar y nifer o Brentisiaid allwch chi eu cyflogi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido hyfforddiant ac asesiad prentis, ac mewn rhai achosion mae’r cyllid yn dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Fel unrhyw gyflogwr, bydd angen i chi dalu’r prentis am eu horiau gweithio cyffredin yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant sydd yn rhan o’r rhaglen brentisiaeth e.e. rhaglenni diwrnod a/neu bloc. Ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf ac arweiniad ar gyfraddau tâl, ewch i www.direct.gov.uk neu cysylltwch â llinell gymorth Hawliau Tâl a Gwaith ar 0800 9172368.

Rydym yn cynnig Prentisiaeth mewn:

  • Peirianneg fodurol – cerbyd ysgafn a thrwm
  • Peirianneg fodurol – atgyweirio corff a phaentio cerbyd
  • Gosod Brics
  • Gwaith Coed
  • Adeiladwaith
  • Peirianneg drydanol
  • Gosodiad trydanol
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Peirianneg fecanyddol
  • Plymio
  • Weldio

Bydd angen i chi gyflawni’r gwiriadau Iechyd a Diogelwch gofynnol yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru cyn i’r prentis gychwyn eu rhaglen. Mae hyn yn golygu byddwn angen gwerthuso rheolaeth iechyd, diogelwch a lles eich cwmni i sicrhau bod y dysgu/gwaith yn cael ei ddarparu mewn awyrgylch foddhaol gyda rheolaeth ar y risgiau.

Mewn termau ymarferol, mae hyn yn golygu bod y Coleg angen gweld tystiolaeth o’r ddogfennaeth a restrir isod, yn ogystal ag ymweliad byr i’r safle:

  • Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Manylion cerbyd modurol os yw’n berthnasol
  • Rhagofalon tan
  • Darpariaeth  Cymorth Cyntaf
  • Asesiad risg yn cynnwys Tân a Rheoliadau Rheoli Sylweddol Peryglus i Iechyd (ble mae mwy na pum gweithiwr)
  • Tystiolaeth o unrhyw gofnodion cynnal a chadw perthnasol (megis PAT, cofnodion gwasanaeth offer goleuo etc.) pan fo’n briodol

Yn dilyn hyn, bydd y coleg yn arsylwi Iechyd a Diogelwch i brofi gweithred system rheoli Iechyd a Diogelwch y cyflogwr yn ystod y rhaglen Brentisiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phrentis nad ydych yn ei gyflogi eisoes, mae gennym restr o ddysgwyr presennol sydd yn chwilio am gyflogwr i gefnogi eu Prentisiaeth. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth drwy ffonio 01495 333777 neu apprenticeships@coleggwent.ac.uk

Gallwn ddarparu cymorth i chi wrth ddod o hyd i brentisiaid. Byddwn yn cynnig arweiniad i chi drwy’r rhaglen Brentisiaeth ac yn darparu adolygiad cynnydd bob dau fis.

Sut i wneud cais

Application process diagram

1. Cwblhau ffurflen gais
FFÔN: Ffoniwch 01495 333777 i dderbyn ffurflen gais
E-BOST: apprenticeships@coleggwent.ac.uk 
YN BERSONOL: Yn unrhyw un o’n pum campwsNeu, os ydych yn chwilio am brentis, cysylltwch â ni drwy ffonio 01495 333777 neu apprenticeships@coleggwent.ac.uk 

2. Cyngor ac arweiniad cwrs
Bydd eich gweithiwr yn derbyn gwahoddiad i fynychu’r coleg er mwyn i ni roi cyngor ac arweiniad iddynt ynghylch y llwybr prentisiaeth maent wedi penderfynu ei ddilyn. Cynhelir y sesiwn ar ôl 4pm oherwydd ymrwymiadau gwaith.

3. Cytundeb tair ffordd ac amrywiaeth o waith
Bydd ein Hasesydd Dysgu ar Sail Gwaith yn trefnu ymweliad gyda chi er mwyn trafod y gwaith hanfodol mae’n rhaid i’ch gweithwyr ei gyflawni er mwyn arwyddo Cytundeb Tair Ffordd a chwblhau’r cynllun Prentisiaeth.

4. Iechyd a Diogelwch
Bydd un o’n cydlynwyr Iechyd a Diogelwch yn cysylltu â chi er mwyn trefnu ymweliad i gwblhau’r gwiriadau iechyd a diogelwch angenrheidiol.

5. Ymrestru
Unwaith bydd y gweithiwr wedi derbyn eu lle ar y cwrs, y cwmni wedi arwyddo Cytundeb Tair Ffordd/amrywiaeth o waith ac wedi pasio gwiriadau Iechyd a Diogelwch, bydd angen i’r gweithiwr ddod i’r coleg er mwyn cofrestru. Byddwn wedi gwirio’r dyddiad ac amser gyda chi ymlaen llaw.

6. Dogfennau tystiolaeth ar gyfer cofrestru
Cerdyn Yswiriant Gwladol, llythyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu Basbort Llawn
Tystysgrif Cymhwyster Uchaf
Slip cyflog diweddaraf / cytundeb cyflogaeth / gohebiaeth gan gyflogwr
Trwydded yrru (llawn neu dros dro) neu dystysgrif geni
Tystiolaeth o gyfeiriad cartref

Os ydych yn ansicr ynghylch y dogfennau rydych angen dod gyda chi, cysylltwch â ni ar 01495 333777 neu apprenticeships@coleggwent.ac.uk