En

Rhwydweithiau i Gyflogwyr

people listening to a presentation

Ymunwch â'n Rhwydweithiau i Gyflogwyr

Ydych chi eisiau datblygu eich gweithlu yn y dyfodol mewn partneriaeth â Coleg Gwent? Cysylltu â’r doniau sy’n dod i’r amlwg i dyfu eich busnes? Dylanwadu ar ein cwricwlwm yn uniongyrchol? Os felly, ymunwch â’n Rhwydweithiau i Gyflogwyr!

Mae ein Rhwydweithiau i Gyflogwyr yn cynnwys cyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Y prif amcan yw adeiladu cysylltiadau gyda busnesau lleol a chenedlaethol, rhanddeiliaid allanol a sefydliadau mewn nifer o ffyrdd.

Fel rhan o’n cydweithrediad agos â busnesau, gallwn baratoi ein dysgwyr ar gyfer gwaith yn y ffordd orau, a’ch helpu chi i uwchsgilio eich staff. Rydym yn rhoi rhyddid i gyflogwyr ysbrydoli ein myfyrwyr, boed hynny drwy eu cyffroi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, neu drwy siapio ein cwricwlwm. Drwy ein helpu ni i wneud hyn, gallwn ddeall eich anghenion a’ch darparu chi gyda gweithwyr y dyfodol, a sicrhau bod Coleg Gwent yn bodloni gofynion sgiliau a newidiol economi Gwent yn y dyfodol.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â:

employers@coleggwent.ac.uk