En

Paratoi ar gyfer Interniaeth gyda Chefnogaeth Lefel Mynediad

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol

Lefel

Lefel
Entry

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.

Yn gryno

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu sgiliau cyflogadwyedd, dyma'r cwrs i chi. Bydd y rhaglen lefel mynediad hon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr, gan baratoi unigolion i ymuno â'r Rhaglen Interniaeth/lleoliad gwaith. Mae hwn yn gwrs paratoi 1 flwyddyn.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Mae gennych ddiddordeb mewn chwilio am leoliad gwaith

... Rydych yn dymuno datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd

... Rydych eisiau ymrestru ar Leoliad Gwaith/rhaglen Interniaeth yn y dyfodol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd dysgwyr yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol a damcaniaethol i ddatblygu a gwella sgiliau cyflogadwyedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y cwrs yn paratoi dysgwyr i gamu i fyd gwaith.

Meysydd dan sylw;

  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
  • Gwaith tîm a chydweithio
  • Proffesiynoldeb a moeseg gwaith
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig
  • Sgiliau rhifedd

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Mae parodrwydd i gymryd rhan lawn ym mhob sesiwn a gweithgaredd yn hanfodol. Rhaid i ddysgwyr fod ag awydd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a mynychu profiad gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Dilyniant i'r Rhaglen Interniaeth neu Baratoi ar gyfer Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad.

Ble alla i astudio Paratoi ar gyfer Interniaeth gyda Chefnogaeth Lefel Mynediad?

CFSN0059AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr