NILC CompTIA DataSys+
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae CompTIA DataSys+ (DS0-001) yn ardystiad gwerthwr niwtral sy’n dilysu eich gallu i gyflwyno, rheoli a diogelu cronfeydd data ar draws amgylcheddau. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n meddu ar 2 i 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn rôl ym maes cronfeydd data.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
… unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
... gweithwyr proffesiynol sy’n gynnar yn eu gyrfa ym maes cronfeydd data sy’n dymuno dilysu eu sgiliau ar gyfer rheoli a diogelu systemau data.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu’r canlynol:
- Hanfodion Cronfeydd Data
- Cyflwyno Cronfeydd Data
- Rheoli a Chynnal a Chadw Cronfeydd Data
- Diogelwch Data a Chronfeydd Data
- Parhad Busnes
Gofynion Mynediad
Dim gofynion mynediad blaenorol ond argymhellir eich bod yn meddu ar 2 i 3 blynedd o brofiad mewn rôl gweinyddwr cronfeydd data.
Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera / meicroffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
MPLA0188AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.