En

AWS Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ardystiad lefel mynediad sy'n dilysu eich dealltwriaeth sylfaenol o AWS Cloud, gan gynnwys ei wasanaethau craidd, prisio, pensaernïaeth a diogelwch.

 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19 oed a hyn, sy’n byw yng Nghymru, ac mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i’r cwrs hwn.

...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y sector TG.

... ar gyfer unigolion sy'n newydd i gyfrifiadura cwmwl neu sydd eisiau dealltwriaeth eang o AWS heb blymio'n ddwfn i fanylion technegol.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Drwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu'r canlynol:

  • Cysyniadau Cwmwl
  • Diogelwch a Chydymffurfiaeth
  • Technoleg a Gwasanaethau Cwmwl
  • Bilio, Prisio a Chymorth

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ragofynion ffurfiol ar gyfer Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig AWS

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd). Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad o amser sydd ei angen
Ble alla i astudio AWS Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig?

MPLA0140AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.