CompTIA Cloud+

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae CompTIA yn ffynhonnell wybodaeth annibynnol, niwtral o ran gwerthwyr, ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau technoleg, yn cynnwys seiberddiogelwch; addysg, hyfforddiant ac ardystio’r gweithlu technoleg byd-eang; technolegau newydd a datblygol; deddfwriaethau a pholisïau sy’n effeithio ar y diwydiant a data’r gweithlu, datblygiadau a thueddiadau.
CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad TG seiliedig ar berfformiad sy’n edrych ar wasanaethau seilwaith cwmwl yng nghyd-destun systemau TG ehangach, ni waeth be fo’r platfform. Mae mudo i’r cwmwl yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio, optimeiddio a diogelu storfeydd data a chymwysiadau sy’n hollbwysig i’r genhadaeth. Mae CompTIA Cloud+ yn dilysu’r sgiliau technegol sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn.
CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad cwmwl a gymeradwyir ar gyfer DoD 8570.01-M, ac mae’n cynnig opsiwn seilwaith ar gyfer unigolion sydd angen ardystiad mewn IAM Lefel I a rolau Dadansoddwr CSSP a Chymorth Seilwaith CSSP.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un 19+ oed sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn gwaith. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i’r cwrs hwn.
…peirianwyr y cwmwl sydd angen arbenigedd ar draws amryfal gynhyrchion a systemau
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond cânt eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 diwrnod
Drwy gydol y cwrs byddwch yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Saernïaeth a Dyluniad y Cwmwl – Dadansoddi gwahanol fodelau o’r cwmwl er mwyn llunio’r ateb gorau i ategu gofynion busnes.
- Diogelwch y Cwmwl – Rheoli a chynnal gweinyddion, yn cynnwys ffurfweddiadau OS, rheoli mynediad a chreu fersiynau rhithwir.
- Datblygu’r Cwmwl – Dadansoddi gofynion systemau er mwyn llwyddo i fudo gwaith i’r cwmwl.
- Gweithrediadau a Chymorth – Cynnal ac optimeiddio amgylcheddau’r cwmwl, yn cynnwys gweithdrefnau awtomateiddio a threfnu, gweithrediadau wrth gefn a gweithrediadau adfer, a thasgau adfer ar ôl argyfwng.
- Cywiro diffygion – Y gallu i gywiro diffygion, materion yn ymwneud ag awtomateiddio, cysylltedd a diogelwch sy’n berthnasol i weithredu’r cwmwl.
Gofynion Mynediad
Dylai cynrychiolwyr feddu ar sgiliau gweinyddu systemau sy'n cynnwys 2-3 blynedd o brofiad. Argymhellir yn gryf ardystiad CompTIA Network+ a Server+, neu'r wybodaeth gyfwerth.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn cael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu'r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser sydd ei angen
MPLA0139AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.