En

CompTIA eDdysgu - Hanfodion TG (ITF+) (FCO-U61)

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
eDdysgu Mae'r astudiaeth mewn dull hunan amseru, hunan drefnu gan ddefnyddio dyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae CompTIA yn ffynhonnell wybodaeth annibynnol, niwtral o ran gwerthwyr, ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau technoleg, yn cynnwys seiberddiogelwch; addysg, hyfforddiant ac ardystio’r gweithlu technoleg byd-eang; technolegau newydd a datblygol; deddfwriaethau a pholisïau sy’n effeithio ar y diwydiant a data’r gweithlu, datblygiadau a thueddiadau.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i benderfynu ai gyrfa yn y maes TG yw’r dewis iawn i chi, gan eich helpu hefyd i ddeall y sector yn well; felly, mae’n gwrs delfrydol i weithwyr proffesiynol annhechnegol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs CompTIA IT Fundamentals+ yn cynnig sgiliau a gwybodaeth sylfaenol yn ymwneud â TG, ac mae’n fan cychwyn ar gyfer ardystiadau CompTIA uwch, megis A+, Network+ a Security+.

Drwy gydol y cwrs byddwch yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Cysyniadau a Therminoleg TG
  • Seilwaith
  • Cymwysiadau a Meddalwedd
  • Datblygu Meddalwedd
  • Hanfodion Cronfeydd Data
  • Diogelwch

Gofynion Mynediad

Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y pwnc.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir y cwrs hwn drwy eDdysgu. Mae hyn yn golygu y dylech astudio mewn modd hunan-drefnedig wrth eich pwysau eich hun, gan ddefnyddio dyfais gyda chysylltiad i'r we.

Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera arnoch.

Ble alla i astudio CompTIA eDdysgu - Hanfodion TG (ITF+) (FCO-U61)?

MPLA0137AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.