Hyfforddiant Gyrwyr HGV / LGV CE (Dosbarth 1): Mynediad Uniongyrchol o Gar

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2025
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i yrru cerbydau cymalog categori CE (Dosbarth 1) LGV, y categori cerbyd nwyddau mwyaf y gallwch ei gyflawni.
Cyfeirir yn gyffredinol at y cerbyd hwn fel lori gymalog, sydd fel rheol wedi ei gwneud o naill ai uned tractor gonfensiynol a threlar neu lori a threlar â bar tynnu arno (gwagen a cherbyd tynnu).
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... Unrhyw un sy’n 19+ oed, yn byw yng Nghymru, yn gyflogedig, ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn
... Unrhyw un sydd eisoes yn meddu ar drwydded yrru car. Nid oes angen i chi fod wedi ei meddu am gyfnod penodol o amser
... Gyrwyr cymwys sy’n awyddus i wella eu sgiliau a dilyn gyrfa yn y diwydiant cludo fel gyrwyr cerbyd nwyddau mawr
Cynnwys y cwrs
Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut i wirio am ddiffygion, gyrru a symud cerbyd nwyddau mawr cymalog a dysgu i’w ddadfachu/ail-fachu’n ddiogel ac i’r safon ofynnol.
Hyd y Cwrs: Cwblheir yr hyfforddiant ymarferol i yrwyr ar sail 1 i 1 dros 5 diwrnod, yn cynnwys eich prawf ymarferol.
Mae dwy ran i’r prawf ymarferol:
- ymarfer symud cerbyd am yn ôl mewn 'siâp S' i fae llwytho + gallu arddangos y weithred o ddadfachu/ail-fachu yn ddiogel
- gyrru ar y ffordd am 60 munud
Byddwch yn dychwelyd am ddiwrnod ychwanegol i gwblhau cymhwyster Modiwl 4 y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC), y byddwch ei angen ar gyfer defnyddio eich trwydded LGV at ddibenion gwaith.
Bydd yr opsiynau hyfforddiant yn dibynnu ar le'r ydych chi'n byw gan ein bod yn gweithio gyda dau ddarparwr hyfforddiant i ddarparu'r cwrs hwn, Heads of the Valley a Monex Academy.
Os oes un yn well gennych na'r llall, yna nodwch hyn ar eich cais os gwelwch yn dda.
Gofynion Mynediad
Cyn yr hyfforddiant ymarferol, bydd angen i chi:
- gwblhau asesiad meddygol er mwyn gwneud cais am eich trwydded dros dro
- llwyddo yn y profion theori LGV perthnasol
Trefnir yr elfennau hyn ar eich rhan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bwriad rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad o safon ar yr yrfa i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac wedi eu dysgu.
Cyn i chi gael eich ymrestru ar eich cwrs sydd wedi'i ariannu gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi er mwyn sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa yn y dyfodol
- ymrwymo i'r amser sydd ei angen
Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:
- dyheadau gyrfa i ddod yn yrrwr ac ar gyfer ennill trwydded
- rheswm dros ddewis categori trwyddedu
- profiad blaenorol o yrru cerbydau mwy neu beiriannau
- anghenion cefnogi ychwanegol ar gyfer profion meddygol neu theori
- mynediad at liniadur/cyfrifiadur/llechen/ffôn clyfar er mwyn cwblhau adolygu theori ac ymrwymiad amser ar gyfer hyn
- prawf meddygol/dros dro neu brawf theori a gwblhawyd cyn hyn
MPLA0126AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.