En

HND Peirianneg Sifil

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Byddwch angen cwblhau HNC yn llwyddiannus mewn Disgyblaeth briodol neu Gymhwyster HND/Gradd sy’n cefnogi newid mewn gyrfa.

Yn gryno

Mae’r HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) mewn Rheolaeth Adeiladu yn datblygu ar y wybodaeth a’r sgiliau a fagwyd wrth gwblhau’r HNC. Edrychir ar hanfodion y diwydiant adeiladu a chynllunio, iechyd a diogelwch a rheoli adnoddau dynol mewn adeiladu, rheoli sefydliadau adeiladu, ac ansawdd mewn adeiladu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych eisoes wedi cwblhau ac wedi ennill cymhwyster HNC mewn adeiladu

... Rydych chi eisiau dilyn gyrfa ym maes adeiladu

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r HND yn cynrychioli ail flwyddyn sy’n lefel 5 gradd lawn. Mae’n ffordd ddelfrydol i ddatblygu o’r HNC, ac mae’n darparu llwybr cynnydd i ddilyn gradd mewn Disgyblaethau megis Rheolaeth Adeiladu, Arolygu neu Beirianneg Sifil.

Mae’r Modiwlau a Astudir ar yr HND yn dibynnu ar lwybrau.

Y llwybrau a gynigir:

  • Peirianneg Sifil
  • Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Rheolaeth Adeiladu
  • Technoleg Saernïol
  • Tirfesur

Ymhlith y modiwlau mae:

  • Prosiect Grwp
  • Daeareg
  • Cadwraeth
  • Mesur a Thendro Uwch
  • Gwybodaeth Adeiladu Uwch

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Cymryd rhan mewn darlithoedd gan ddilyn dull astudio lle cewch eich rhyddhau chi am ddiwrnod.
  • Wrth gofrestru, gwneud ymholiad ynghylch cyllid gan y llywodraeth drwy ein prentisiaethau uwch.
  • Cwblhau Asesiadau sy’n seiliedig ar waith cwrs fydd yn cael ei ddosbarthu yn ystod ail flwyddyn eich cwrs
  • Astudio astudiaethau achos prosiectau cyfredol, gan ddangos diddordeb realistig a chyfleoedd i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd proffesiynol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r HND yn llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i’r Brifysgol i ddatblygu graddau llawn.

Mae gennym gysylltiadau gwych gyda’n prifysgolion lleol a gallwn drefnu sesiynau blas, diwrnodau agored a thrafodaethau gyda thiwtoriaid yn y sefydliadau hynny.

Fel arall, byddai HND Lefel 5 yn gymhwyster delfrydol er mwyn dilyn gyrfa mewn tirfesur adeiladau, peirianneg safle, rheoli safle neu Dechnoleg Saernïol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel prentisiaeth genedlaethol uwch.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND Peirianneg Sifil?

NPHD0030YT
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr