En

HND Peirianneg Electronig a Thrydanol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Peirianneg

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol: Proffil Teilyngdod/Teilyngdod DD Lefel 3 BTEC perthnasol yn Lefel A.

Graddau DE yn Lefel A a gradd C ym Magloriaeth Cymru.

Mynediad at AU lle'r ydych wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 o Lwyddiannau a: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.

Yn gryno

Wrth i'r diwydiant electroneg barhau i dyfu ar draws y byd, mae galw uchel am wybodaeth a sgiliau o fewn peirianneg electroneg. Os ydych yn gweithio yn y maes ac eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa, bydd y cwrs rhan-amser hwn yn eich helpu i ddatblygu eich gallu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gwella eich arbenigedd a'ch rhagolygon ym maes electroneg

... Ydych eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa yn y diwydiant hwn  

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r astudio yn gyfuniad o theori (darlithoedd a thiwtorialau) ac ymarfer (gweithdai ymarferol), drwy fodiwlau craidd electroneg, egwyddorion trydanol, rheoli ac offeryniaeth, PLCs a mathemateg.

Bydd prosiect yn ail ran y cwrs yn datblygu eich sgiliau gweithio mewn grwp, a byddwch yn cynhyrchu arteffact sy'n gweithio i'w arddangos yn nigwyddiad arddangos peirianneg.

Darperir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu drwy aseiniadau, gwaith cwrs a phrofion yn y dosbarth, yn ogystal â pharatoi a rhoi cyflwyniadau i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae angen i chi fod wedi cyflawni HNC mewn
Peirianneg Drydanol i wneud cais am y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gyrfaoedd posib:

Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa o fewn electroneg, cyfrifiadureg, peirianneg drydanol, cyfathrebu, neu systemau rheoli a systemau gwreiddio. Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol, y profiad a'r hyder i chi astudio am radd anrhydedd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gan fod hyn yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Phrifysgol De Cymru (PDC), ar ôl ei gwblhau, gallwch ychwanegu at eich cymhwyster i radd BSc (Anrh) lawn gydag astudiaeth ran-amser ychwanegol.

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi at yrfa o fewn:

  • Electroneg
  • Peirianneg drydanol
  • Cyfathrebu
  • Systemau rheoli a systemau ymgorffori

Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol, y profiad a'r hyder i chi astudio gradd anrhydedd mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio HND Peirianneg Electronig a Thrydanol?

CPHD0023AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr