En

NPTC PA1 Sylfaenol mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£165.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Rhagfyr 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
09:00 - 16:00

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â gwybodaeth amrywiol a thrylwyr ynglyn â defnyddio plaladdwyr a chael gwared arnynt.

Mae'n uned sylfaenol orfodol sy'n ymdrin â'r ddeddfwriaeth ynghylch defnyddio plaladdwyr, ac mae'n rhaid ei chwblhau cyn cychwyn unrhyw gwrs plaladdwyr NPTC arall.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...Unrhyw un sydd â swydd sy'n cynnwys defnyddio plaladdwyr

...Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu sgiliau

...Unrhyw un sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth

Cynnwys y cwrs

Mae deddfwriaeth yn ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sy'n defnyddio plaladdwyr mewn cyflogaeth neu fusnes fod wedi cael cyfarwyddyd digonol a bod yn gymwys yn y dyletswyddau yr ymgymerir â nhw. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i ddefnyddio a thrin plaladdwyr yn ddiogel a'r dull(iau) taenu a ddefnyddir. Bydd angen i bob unigolyn ymgymryd â modiwl sylfaen (PA1) a modiwl cymwysiadau perthnasol.

Byddwn yn mynd i'r afael â:

  • Deddfwriaeth
  • Dehongli gwybodaeth ar label cynnyrch
  • Diogelwch personol a halogiad
  • Storio plaladdwyr a'u cynhwysyddion
  • Gwaredu arnynt
  • Cadw cofnodion
  • Ffactorau amgylcheddol

Gofynion Mynediad

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, ond rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn ymgymryd â phrawf ar-lein sy'n cymryd oddeutu 1 awr.

Dylech gwblhau'r cwrs hwn mewn cysylltiad â naill ai PA6 a PA2, neu'r ddau.

Mae'r cwrs yn 1 diwrnod o hyd gydag asesiad ar-lein ar ddiwedd y dydd.

Ble alla i astudio NPTC PA1 Sylfaenol mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Lefel 2?

UPEU0154AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Rhagfyr 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr