En

Olwynion Sgraffinio

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Iechyd a Diogelwch

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Nod y cwrs yw codi ymwybyddiaeth gweithwyr ar bob lefel o’u cyfrifoldebau ar gyfer diogelwch wrth ddefnyddio olwynion sgraffinio ar gyfer bob math o offer torri a llifanu (Llif Stihl, Peiriant Llifanu Onglau, Llif Hollti, Peiriant Llifanu Mainc/Pedestal, Peiriant Llifanu Arwyneb, Peiriant Llifanu Silindrig etc).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...gweithwyr ar bob lefel

...unrhyw un sy’n defnyddio offer torri neu lifanu fel rhan o’u dyletswyddau gwaith arferol

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â'r testunau canlynol:

  • Yr Angen i Hyfforddi a Gofynion Statudol
  • Nodweddion Olwyn Sgraffinio a’r Mathau
  • Marciau Olwynion Sgraffinio
  • Peryglon a Rhagofalon i’w cymryd
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Cadw a Defnyddio - Cefnogir y cwrs gan DVD ac astudiaeth achos o ddamwain.

Dilynir y cwrs Iechyd a Diogelwch gan ymwybyddiaeth ymarferol yn ymdrin â:

  • Cydbwyso Olwynion Sgraffinio
  • Y Dull Cywir o Lanhau Olwynion
  • Addasu Amddiffynfeydd a Chynhalwyr

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cwrs hwn dros 4 awr fel rheol. Gall yr ymgeiswyr sy’n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, eu dyfarnu â thystysgrif presenoldeb Coleg Gwent, a gallent symud ymlaen i un o'n cymwysterau iechyd a diogelwch ardystiedig megis Gweithio’n Ddiogel IOSH, NEBOSH neu NVQs City & Guilds.

Ble alla i astudio Olwynion Sgraffinio?

BCEM0015AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.