En

ILM Dyfarniad neu Dystysgrif mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
5

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Bwriad Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Sgiliau Arwain a Rheoli yw rhoi sylfaen gadarn i reolwyr canol newydd, rheolwyr canol gweithredol neu ddarpar reolwyr canol ar gyfer eu datblygiad ffurfiol yn eu rôl.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…gweithwyr sy’n dymuno meithrin eu sgiliau a’u profiad

…gweithwyr sy’n dymuno gwella’u perfformiad

…paratoi gweithwyr ar gyfer cyfrifoldebau uwch-reolwyr

Cynnwys y cwrs

Dyma’r ddwy uned a gaiff eu hastudio fel rhan o’r cwrs hwn:

  • Dod yn arweinydd effeithiol – bydd yr uned hon yn helpu i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol, fel sy’n ofynnol ar gyfer reolwyr canol gweithredol neu ddarpar reolwyr canol. Bydd yr ymgeiswyr yn gallu pennu cyfrifoldebau allweddol sy’n perthyn i’r rôl arwain a gwerthuso’u gallu eu hunain i arwain eraill.
  • Arwain arloesi a newid – bydd yr uned hon yn ystyried yr angen i ddatblygu arloesi a newid wrth reoli. Bydd modd i’r ymgeiswyr gynnig atebion arloesol ar gyfer gwella perfformiad sefydliadol a bydd modd iddynt arwain a rheoli newid mewn sefydliad.

Gofynion Mynediad

Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y cyfranogwyr fel arfer yn rheolwyr canol gweithredol neu’n ddarpar reolwyr canol a chanddynt gyfle i fodloni’r gofynion asesu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y dysgwyr llwyddiannus yn ennill Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ond efallai y byddant yn dymuno camu yn eu blaen i astudio Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth trwy ychwanegu unedau eraill. Neu gallant gamu yn eu blaen i astudio Diploma NVQ Lefel 7 ILM mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth Strategol.

Ble alla i astudio ILM Dyfarniad neu Dystysgrif mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5?

BCEM0004AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.