City & Guilds Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
3
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Nod cymhwyster Diploma NVQ Lefel 3 City and Guilds mewn Coginio Proffesiynol yw asesu a hyfforddi Cogyddion mewn sgiliau paratoi a choginio bwyd cymhleth neu lefel uwch. Mae wedi'i anelu at Gogyddion sydd â phrofiad o amgylchedd y gegin weithiol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol ynghyd ag elfen o brofiad gwaith.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys detholiad eang o feysydd, megis diogelwch bwyd, rheoli adnoddau, datblygu perthynas weithiol gyda chydweithwyr, iechyd a gofal ac arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmer.
Mae'r unedau ymarferol yn cynnwys:
- Paratoi, coginio a gorffen prydau cig, dofednod, helgig, pysgodyn, llysiau cymhleth ynghyd â chynnyrch phasta, bara a thoes, cynnyrch siocled a phwdinau.
Gofynion Mynediad
Coginio Proffesiynol Lefel 2 neu gymhwyster a phrofiad cyfwerth.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros ddau ddiwrnod fydd yn caniatáu i chi weithio yn y diwydiant gyfochr â'ch astudiaethau.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg cogydd llawn a phrynu eich cyllyll eich hunain ar gyfer yr holl sesiynau ymarferol, a mynychu gweithdai Dosbarth Meistr i gyfoethogi eich astudiaethau. Efallai y cânt eu cynnal ar ddiwrnodau amgen i'r 2 ddiwrnod dynodedig ar yr amserlen.
CPDI0200AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr