YMCA Diploma mewn Hyfforddi Gwaith Matiau Pilates (DI0674) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£245.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
17 Ionawr 2026
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
5 wythnos
Gofynion Mynediad
Cyn dechrau astudio ar gyfer y cymhwyster hwn, argymhellir bod dysgwyr yn:
Meddu ar brofiad o gymryd rhan mewn sesiynau Gwaith Matiau Pilates,Mae’n rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster Hyfforddiant Personol ac efallai y bydd angen cwblhau unedau ychwanegol yn amodol ar pryd yr enillwyd y cymhwyster a’r unedau a astudiwyd.
Yn gryno
Diben y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i gynllunio, i gyflwyno ac i werthuso sesiynau a rhaglenni Gwaith Matiau Pilates. Gall hyn gynnwys:
Sesiynau grŵp Gwaith Matiau Pilates. Sesiynau a rhaglenni un i un Gwaith Matiau Pilates. Sesiynau Gwaith Matiau Pilates gan ddefnyddio cyfarpar bach i addasu ymarferion, megis bandiau, peli a briciau.
Dyma'r cwrs i chi os...
- Rydych chi’n angerddol am Pilates a hoffech chi ddatblygu’r sgiliau i gynllunio ac arwain sesiynau Gwaith Matiau Pilates yn hyderus.
- Hoffech chi weithio gydag unigolion neu grwpiau o ran cyflwyno dosbarthiadau Gwaith Matiau Pilates effeithiol a diogel.
- Hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio cyfarpar bach (bandiau, peli, briciau) i addasu a gwella eich ymarferion Pilates.
- Hoffech chi ddeall sut i werthuso ac addasu rhaglenni Pilates i fodloni anghenion cleientiaid amrywiol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn cynnwys:
Anatomeg a Ffisioleg
Anatomeg a ffisioleg ar gyfer gweithwyr proffesiynol Pilates ac ioga NEU Anatomeg a ffisioleg ar
gyfer gweithwyr proffesiynol ymarfer corff a ffitrwydd
Profiad y cwsmer
Darparu profiad cadarnhaol i’r cwsmer i gefnogi busnes Pilates NEU Ddarparu profiad cadarnhaol i’r cwsmer i gyfranogwyr ymarfer corff a ffitrwydd
Ymwybyddiaeth iechyd a rheolaeth ffordd o fyw
Ymwybyddiaeth iechyd a rheolaeth ffordd o fyw ar gyfer gweithwyr proffesiynol Pilates NEU Ymwybyddiaeth iechyd a rheolaeth ffordd o fyw
Gwaith Matiau Pilates
Sgrinio iechyd, pennu lefel risg a gweithio o fewn cwmpas ymarfer Hanes, tarddiad, a hanfodion dull Pilates Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiynau a rhaglenni Gwaith Matiau Pilates
I ennill cymhwyster YMCA Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Gwaith Matiau Pilates (610/4340/0), mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni chwe uned orfodol ar draws 4 grŵp.
Mae asesiadau’n cynnwys:
- Cwestiynau ac atebion ar Anatomeg a ffisioleg ar gyfer gweithwyr proffesiynol Pilates ac ioga
- Cyflwyno a thrafodaeth broffesiynol
- Ymarfer personol
- Taflen waith ar gyfer dadansoddi ymarfer corff a thrafodaeth broffesiynol
- Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiwn grŵp Gwaith Matiau Pilates (arsylwi’r ffordd o gyflwyno) gyda thrafodaeth broffesiynol
- Prosiect gwaith cleient pwrpasol gyda thrafodaeth broffesiynol
Beth a ddisgwylir ohonof i?
· Byddwch chi’n cymryd rhan weithredol yng nghydrannau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
· Byddwch chi’n dangos eich gallu i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiynau Gwaith Matiau Pilates.
· Byddwch chi’n hunan-fyfyrio ac yn cael adborth i wella eich sgiliau addysgu.
· Byddwch chi’n cwblhau unrhyw asesiadau neu aseiniadau gofynnol sy’n ymwneud â chynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates.
· Byddwch chi’n cynnal ymddygiad proffesiynol a safonau diogelwch yn ystod pob sesiwn ymarferol.
· Byddwch chi wedi ymrwymo i ymarfer ac astudio rheolaidd y tu allan i sesiynau a drefnwyd i atgyfnerthu eich dysgu.
· Byddwch chi’n cymryd rhan weithredol yng nghydrannau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
· Byddwch chi’n dangos eich gallu i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso sesiynau Gwaith Matiau Pilates.
· Byddwch chi’n hunan-fyfyrio ac yn cael adborth i wella eich sgiliau addysgu.
· Byddwch chi’n cwblhau unrhyw asesiadau neu aseiniadau gofynnol sy’n ymwneud â chynllunio a chyflwyno sesiynau Pilates.
· Byddwch chi’n cynnal ymddygiad proffesiynol a safonau diogelwch yn ystod pob sesiwn ymarferol.
· Byddwch chi wedi ymrwymo i ymarfer ac astudio rheolaidd y tu allan i sesiynau a drefnwyd i atgyfnerthu eich dysgu.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae cymhwyster YMCA Lefel 3 Diploma mewn Hyfforddi Gwaith Matiau Pilates (610/4340/0) yn gymhwyster ar lefel mynediad. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni’r gofynion mynediad y cytunwyd arnynt gyda diwydiant i gael mynediad i’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel hyfforddwr Gwaith Matiau Pilates cyflogedig neu hunan-gyflogedig.
Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefel a/neu ar lefel uwch i fod yn arbenigwr ac i gynyddu cwmpas ymarfer ymhellach. Er enghraifft:
Arbenigedd poblogaeth (i weithio gydag ystod ehangach o gleientiaid):
Cymhwyster YMCA Lefel 3 Dyfarniad mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol: Amenedigol (610/0829/1) YMCA Lefel 3 Dyfarniad mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol: Anabledd a Namau (610/1559/1) YMCA Lefel 3 Dyfarniad mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol: Oedolion Hŷn (610/1668/8) YMCA Lefel 3 Tystysgrif Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol: Cyflyrau Iechyd Hirdymor (610/4227/4)
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPDI0674AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 17 Ionawr 2026
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr