YMCA Diploma mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd: Hyfforddwr Campfa Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£150.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
31 Ionawr 2026
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
8 wythnos
Yn gryno
Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn bydd dysgwyr yn bodloni anghenion y diwydiant i ddod yn Hyfforddwr Campfa yn ôl safonau proffesiynol CIMSPA.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw galluogi myfyrwyr i:
Gynnal iechyd, diogelwch a hylendid yn amgylchedd campfa. Olrhain a chefnogi cleientiaid yn amgylchedd campfa. Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni campfa.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Bydd cwblhau'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gyrchu swyddi hyfforddi mewn sesiynau ymarfer corff yn y gampfa
Cynnwys y cwrs
Bydd dysgwyr yn cwmpasu gwybodaeth a sgiliau creiddiol ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd sy'n cynnwys:
Hanfodion anatomeg a ffisioleg i weithwyr proffesiynol ymarfer corff a ffitrwydd Darparu profiad cwsmer cadarnhaol i ymarferwyr iechyd a ffitrwydd Egwyddorion gweithgarwch corfforol, ymarfer corff a dulliau hyfforddi er mwyn datblygu ffitrwydd ac iechyd Sgrinio iechyd, haeniad risg a chwmpas ymarferion Ymwybyddiaeth o iechyd a rheoli ffordd o fyw
Bydd dysgwyr hefyd yn cwmpasu gwybodaeth a sgiliau sy'n berthnasol i gefnogi cleientiaid mewn amgylchedd campfa megis:
Ymgynghori, asesu a phrosesau sefydlu mewn amgylchedd campfa Cynnal iechyd a hylendid mewn amgylchedd campfa Defnyddio gwybodaeth am gleientiaid i gynllunio hyfforddiant yn y gampfa Egwyddorion cynllunio ymarfer corff yn y gampfa i ystod eang o gleientiaid Darparu sesiynau ymarfer corff yn y gampfa Adolygu sesiynau a myfyrio ar ymarferion.
Gofynion Mynediad
Nid oes yna ofynion ymlaen llaw ar gyfer y cymhwyster hwn. Cynlluniwyd yn arbennig ar gyfer y grŵp oedran 19+ ac mae'n seiliedig ar safonau Hyfforddwyr Campfa a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (Chartered institute for the Management of Sport and Physical Activity - CIMPSA) ochr yn ochr â chyflogwyr yn y diwydiant. Cydnabyddir y cymhwyster hwn fel y gofyniad isaf ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs fel cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell dros gyfnod o 8 wythnos.
Bydd gofyn i chi fynychu o leiaf 8 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPDI0673AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 31 Ionawr 2026
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr