City & Guilds Diploma Cynorthwywyr Nyrsio Milfeddygol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Dydd Llun a Dydd Mercher
Amser Dechrau
10:15
Amser Gorffen
18:20
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill cymhwysedd ymarferol yn seiliedig ar wybodaeth greiddiol ymarfer nyrsio milfeddygol. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddarparu gofal nyrsio i anifeiliaid gwael eu hiechyd a rhai sydd wedi'u hanafu.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych eisoes mewn gwaith neu'n gwirfoddoli mewn practis milfeddygol anifeiliaid bychain ac yn barod i hyfforddi fel cynorthwyydd gofal milfeddygol.
Cynnwys y cwrs
Bydd arbenigwyr y maes gofal anifeiliaid a nyrsio milfeddygol yn cyflwyno darlithoedd, a byddwch yn cymryd rhan mewn fforymau trafod a gwaith grwp
Mae'r cymhwyster hwn yn ddelfrydol i ddysgwyr sydd eisiau dod yn nyrsys milfeddygol ond nad ydynt yn barod i ddechrau'r Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Milfeddygol.
Gofynion Mynediad
Bydd angen i chi allu arddangos gwybodaeth o pam eich bod eisiau gweithio gydag anifeiliaid a'r brwdfrydedd i gyflawni yn y diwydiant. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Os nad oes gennych TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, yna bydd gofyn i chi astudio tuag at Cymhwyso Rhif a/neu Gyfathrebu lefel 2.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wedi ichi gwblhau hyn, byddwch yn ennill Diploma Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol Lefel 2 City & Guilds
Byddwch yn mynychu'r coleg am un diwrnod yr wythnos ac yn gweithio mewn practis am o leiaf tri diwrnod yr wythnos (neu leiafswm o 600 awr) trwy gydol y cwrs.
Cewch eich asesu drwy gofnod cynnydd, prosiectau, cyflwyniadau ac arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol.
UPDI0537AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr