En

IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a’i fwriad yw diwallu elfen ddamcaniaethol y cwrs VCQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Beiciau Modur. Mae hefyd yn diwallu gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Beiciau Modur.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur)

... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn beiciau modur

... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar

Cynnwys y cwrs

Ceir 9 o fodiwlau i’w cwblhau trwy gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Byddwch yn astudio unedau fel:

  • Iechyd, diogelwch a threfniadau da yn yr amgylchedd modurol
  • Cymorth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd modurol
  • Deunyddiau, dulliau saernïo, offer a dyfeisiadau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
  • Diagnosio a chywiro diffygion trydanol mewn beiciau modur
  • Paratoi ac archwilio beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn injans beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn systemau siasis beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a diffygion llinellau gyriant mewn beiciau modur
  • Gwybodaeth am sut i ganfod a chytuno ar anghenion gwasanaeth cwsmeriaid cerbydau modur

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • IMI Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur)
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Gofynion Mynediad

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2, neu Ddiploma Lefel 2 Cyfwerth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn gwneud lefel 2 amser llawn ac a fydd yn symud ymlaen i lefel rhan amser 3 y flwyddyn nesaf.

Bydd angen y PPE cywir arnoch ar gyfer y cwrs hwn. 
Mae hyn yn costio tua £40.

Mae'r cwrs hwn yn 12 awr yr wythnos.

Ble alla i astudio IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3?

CFDI0465AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr