YMCA Diploma mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â chymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Campfa neu gyfwerth sy’n dymuno symud ymlaen i yrfa fel Hyfforddwr Personol proffesiynol ar sail gyflogedig neu hunangyflogedig.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer rheoli chwaraeon a gweithgaredd corfforol (CIMSPA).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Unrhyw un sydd â chymhwyster Hyfforddwr Campfa Lefel 2 dilys

... Y rhai sydd eisiau’r wybodaeth i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o wybodaeth a sgiliau ychwanegol i'ch helpu i symud ymlaen fel hyfforddwr personol cyflogedig neu hunangyflogedig gydag arbenigedd mewn cyflyru chwaraeon a ffitrwydd awyr agored. Mae'r cynnwys yn adlewyrchu'r gallu sydd ei angen i ddod yn hyfforddwr personol diogel ac effeithiol.

Nod y cymhwyster yw cydnabod y sgiliau, gwybodaeth a gallu mae unigolyn eu hangen i weithio fel hyfforddwr personol heb oruchwyliaeth. Mae hyn yn cynnwys gallu cynnig hyfforddiant un-i-un, asesiad sylfaenol, cyngor maethol a rhaglennu blaengar sy'n neilltuol i anghenion unigol y cleient.

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Anatomeg a ffisioleg gynhwysol
  • Hyrwyddo llesiant drwy gymhelliant a rhyngweithio cleientiaid
  • Dylunio rhaglen ymarfer corff pwrpasol
  • Cyfarwyddo rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra a thechnegau cyfathrebu
  • Maeth i gefnogi gweithgaredd corfforol
  • Craffter busnes ar gyfer ymarfer hyfforddiant personol

Cynhelir asesiadau drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:

Papur theori aml ddewis, llyfryn gwaith asesu, portffolio arddangosfa hyfforddiant personol (5 elfen) a chwblhau log dysgwr.

Gofynion Mynediad

Mae angen ichi fod â chymhwyster hyfforddwr ffitrwydd Lefel 2 cymwys er mwyn ymgymryd â'r cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Wedi i chi gwblhau'r cwrs, gallwch ddefnyddio'r cymhwyster hwn fel llwyfan i symud ymlaen at gyrsiau eraill o fewn y sectorau hamdden actif ac iechyd a ffitrwydd.

Ble alla i astudio YMCA Diploma mewn Hyfforddiant Personol (Ymarferydd) Lefel 3?

UPDI0337AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr