City & Guilds Trin Gwallt Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023

Hyd

Hyd
34 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa trin gwallt, ac mae'n ddelfrydol os oes gennych ychydig neu ddim sgiliau na phrofiad presennol yn y maes hwn. Bydd y cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmer wrth ddelio â chleientiaid.

Dyma'r cwrs i chi os...

...wrth eich bodd â thrin gwallt a harddwch
...rydych eisiau newid eich gyrfa
...rydych yn hoff o dorri gwallt eich ffrindiau a theulu ac eisiau ennill cymhwyster.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau trin gwallt, yn cynnwys:

  • Ymgynghoriadau â chleient
  • Sgiliau derbynfa
  • Golchi gwalltiau
  • Chwythsychu
  • Torri sylfaenol
  • Y grefft o addurno gwallt
  • Gwallt i fyny
  • Lliwio gwallt
  • Creu steil gwallt cyflawn gan ddefnyddio lliw

A byddwch yn dysgu'r uchod drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grwp
  • Lleoliad gwaith
  • Gweithgareddau cyfoethogi megis teithiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd a sgyrsiau diwydiannol

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein yn ymdrin â'ch gwybodaeth sylfaenol. Unwaith y byddwch wedi'i gwblhau, byddwch yn cyflawni:

    • NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt ac Unedau L2 mewn Trin Gwallt
    • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I ddilyn y cwrs byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd G neu uwch yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Bydd angen i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar, yn gyfeillgar a bod â lefel uchel o gyflwyniad personol.

Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen at NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis dan hyfforddiant.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
  • Gwallt wedi'i glymu'n ôl yn daclus oddi wrth yr wyneb
  • Ni ddylid gwisgo estyniadau ewinedd na farnais ewinedd
  • Dim gemwaith na thlysau, cewch wisgo modrwy briodas yn unig yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £192.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Ble alla i astudio City & Guilds Trin Gwallt Lefel 1?

CPDI0313AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr