En

City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerbydau Modurol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • Lefel 1 Cynnal a Chadw at Atgyweirio Cerbydau neu ddiploma Lefel 1 gyfwerth, a TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd D neu uwch, neu wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
  • Neu Lefel 2 Gosod Cerbydau Cyflym gyda Theilyngdod ac wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.
  • Neu, mynediad uniongyrchol gyda 4 TGAU gradd D, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnolegol ac academaidd am dechnoleg cerbydau, yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu waith yn y diwydiant modurol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych wedi cwblhau’r Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn

... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn cerbydau

... Rydych yn dda am ddatrys problemau

... Rydych eisiau gweithio yn y diwydiant modurol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn cynnig astudiaeth ganolradd o’r dechnoleg a thechnegau atgyweirio sy’n gysylltiedig â cherbydau ysgafn, a bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach yn y diwydiant modurol.

Mae pum uned dechnegol wedi’u rhannu i dechnoleg fframiau, technoleg injan, technoleg trosglwyddo, technoleg drydanol ac electronig, ac agweddau cyffredinol (fel iechyd a diogelwch)

Darperir y cwrs drwy:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gweithio realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol
  • Gwaith aseiniad

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen ichi gwblhau Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn neu ddiploma Lefel 1 gyfwerth, a byddwch angen TGAU Mathemateg a Saesneg ar radd D neu uwch, neu fod wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.

Gallwch hefyd ymuno os ydych wedi cwblhau Lefel 2 Gosod Cerbydau Cyflym yn llwyddiannus gyda Theilyngdod ac wedi cwblhau eich cwrs sgiliau’n foddhaol.

Mae hefyd opsiwn ichi ddod ar y cwrs yn uniongyrchol, gyda 4 TGAU gradd D, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl ichi gwblhau’r cwrs Lefel 2 hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at y Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn neu Brentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac oferôls, a fydd yn costio oddeutu £40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a’ch ffolderi eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2?

CFDI0212AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr