En

City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Paentio ac Addurno Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu ystod o dechnegau peintio ac addurno lefel sylfaen.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn frwd am beintio ac addurno
... Hoffech hybu eich gwybodaeth a’ch sgiliau
... Hoffech gael hyfforddiant helaeth o ansawdd uchel

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn datblygu’r arbenigedd i weithio’n annibynnol ac yn sefydlu amgyffred cadarn o effeithiau addurniadol sylfaenol. Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Egwyddorion adeiladu
  • Gosod a datgymalu offer mynediad a llwyfannau gwaith 
  • Paratoi arwynebau ar gyfer addurno
  • Taenu systemau paent gyda brwsh a rholer
  • Taenu sylfaen a phapurau plaen
  • Cynhyrchu caboliadau addurniadol arbenigol

Addysgir y cwrs drwy sesiynau ymarferol a chyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Paentio ac Addurno Lefel 2?

EFDI0375AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr