City & Guilds Coginio Proffesiynol Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch
Lefel
1
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 3 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg Iaith neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Caiff ymgeiswyr heb ganlyniadau’r TGAU gofynnol eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill. Rhaid i chi hefyd fod â diddordeb brwd mewn coginio a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, ac yn mwynhau gweithio fel aelod o dîm.
Yn gryno
Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Rydych yn mwynhau gweithio dan bwysau
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.
Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i'r cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2.
Mae'r pynciau y byddwch yn mynd i'r afael â nhw ar y cwrs yn cynnwys:
- Diogelwch Bwyd
- Sgiliau Cyflogadwyedd
- Iechyd a Diogelwch
- Bwyd iachach a dietau arbennig
- Cyflwyniad i offer y gegin
- Berwi, potsio a stemio
- Pobi, rhostio a grilio
- Ffrio dwfn a ffrio bas
- Adfywio bwyd parod
- Paratoi bwyd oer
- Crefft coginio proffesiynol
- Gwasanaeth bwyty - gwasanaeth bwyd, diod a bar
- Sgiliau barista coffi
Mae’r Dystysgrif Gwasanaeth Bwyd a Diod Cyffredinol Lefel 1 yn gymhwyster ychwanegol. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, sef Morels ar Gampws Crosskeys a Cwtch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent. Byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.
Byddwch yn cael eich asesu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformiad ac arsylwi
- Arddangos sgiliau ymarferol
A byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:
- Coginio Proffesiynol Lefel 1
- Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Cyffredinol Lefel 1
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
O leiaf 3 TGAU gradd E neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg/Saesneg Iaith neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Caiff ymgeiswyr heb ganlyniadau’r TGAU gofynnol eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill. Rhaid i chi hefyd fod â diddordeb brwd mewn coginio a rhoi cynnig ar fwydydd newydd, ac yn mwynhau gweithio fel aelod o dîm.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a/neu Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (yng Nghampws Crosskeys) NVQs yn y gweithle mewn meysydd sy'n ymwneud â choginio proffesiynol, gwasanaeth bwyd a diod, gwasanaeth blaen ty, gwasanaeth cwsmer a gwasanaethau cegin.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, dillad cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua £230.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0057AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr