En

City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Gwaith Coed ac Asiedydd Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Bydd y Cwrs Sylfaen mewn Gwaith Coed a Saernïaeth yn eich cyflwyno i sgiliau gwaith coed a saernïaeth, yn ogystal â sgiliau Gosod Brics. Byddwch yn dysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gwaith coed neu saernïaeth.                                                                                                                                                                                                                                                                   

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn dymuno cael gyrfa mewn gwaith saer/toi

... Mae gennych ddiddordeb brwd yn y diwydiannau adeiladu

... Rhai sy’n mwynhau gwaith ymarferol ac yn gwerthfawrogi astudiaeth ddamcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs yn ymdrin ag astudiaethau crefft-benodol, fel technegau uno pren (saernïaeth) a gwaith coed sylfaenol ar y safle ynghyd â sgiliau gosod brics sylfaenol.

  • Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
  • Cynnal a chadw a defnyddio offer llaw gwaith coed a saernïaeth
  • Paratoi a defnyddio offer pwer cludadwy gwaith coed a saernïaeth
  • Cynhyrchu uniadau gwaith coed, gosod brics i greu waliau
  • Iechyd, diogelwch a llesiant mewn adeiladu

Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs Sylfaen mewn Gwaith Saer ac Asiedydd, gallwch symud ymlaen i’r lefel nesaf i roi hwb pellach i’ch sgiliau neu fynd yn syth i gyflogaeth gan ddefnyddio’r sgiliau rydych wedi’u datblygu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud asesiad y diwydiant adeiladu er mwyn helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar eich cyfer.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Rhaglen Sylfaen mewn Gwaith Coed ac Asiedydd Lefel 2?

NFDI0373AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr