En

VTCT VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn gwella eich sgiliau technegol, yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am feysydd arbenigol a bydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel therapydd harddwch cwbl gymwysedig.

Dyma'r cwrs i chi os...

...rydych wedi cymhwyso mewn Therapi Harddwch ar
...ydych chi am ddatblygu gwybodaeth arbenigol
...ydych chi’n weithgar ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn dysgu triniaethau harddwch a thechnegau datblygedig megis:

  • Tylino'r corff
  • Triniaethau arbenigol trydanol a mecanyddol ar gyfer y wyneb a’r corff
  • Rhoi lliw haul ffug â llaw neu â chwistrell
  • Strwythurau ewinedd artiffisial
  • Tylino pen Indiaidd
  • Tylino therapi cerrig
  • Diflewio
  • Gofal cleientiaid
  • Hyrwyddo a gwerthu
  • Gweithdrefnau iechyd, diogelwch a hylendid yn y salon.

Byddwch yn dysgu trwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg yn gweithio ar gleientiaid
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Gwaith grwp
  • Lleoliadau gwaith - naill ai bob wythnos neu mewn bloc

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:

  • Cystadlaethau mewnol yn y coleg
  • Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
  • Diwrnodau sba
  • Arddangosiadau diwydiant ar Driniaeth Laser/IPL
  • Ymweliadau a theithiau i weld arbenigwyr yn y diwydiant
  • Rolau goruchwylio yn yr adran a rheoli colofnau therapyddion

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu gwybodaeth sylfaenol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch arnoch.

Rhaid i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Cynhelir pob dosbarth ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle mae'n bosib y bydd gofyn i chi fynychu'r coleg tan 7.30yh.

Mae profiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn rhan orfodol o'r cwrs ac mae'n cynnwys lleoliadau gwaith a gweithio ar gleientiaid yng nghlinigau harddwch y campws. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyrsiau therapi ategol llawn amser neu ran amser Lefel 3, cyflogaeth yn y diwydiant therapi harddwch neu gyrsiau Addysg Uwch (lefel prifysgol). Diploma Lefel 4 mewn Laser ILP.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg arbennig
  • Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Dim tyllau corff
  • Ni chaniateir gwisgo unrhyw emwaith ac eithrio modrwy briodas yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £198.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 3?

EFDI0445AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr