En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt a TGAU gradd D neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Dyma'r cwrs lefel nesaf sy’n mynd yn ddyfnach i mewn i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fod yn driniwr gwallt llwyddiannus.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi’n caru popeth sy’n ymwneud â gwallt a harddwch
... Ydych chi wedi cwblhau’r cwrs trin gwallt Lefel 1
...Ydych chi am gael cyfuniad o astudio ymarferol a damcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r sector trin gwallt yn symud yn gyflym a bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl eich hyfforddiant.

Byddwch yn dysgu am:

  • Ymgynghoriadau cleient
  • Sgiliau derbynfa
  • Siampwio
  • Chwyth-sychu
  • Setting
  • Lliwio
  • Torri
  • Pyrmio
  • Hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau
  • Triniaethau gwallt/croen y pen.

Caiff y cwrs ei gyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grwp
  • Lleoliadau gwaith - naill ai bob wythnos neu mewn bloc

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:

  • Sgyrsiau diwydiant gan arbenigwyr ym maes trin gwallt
  • Cystadlaethau mewnol a'r cyfle i roi cynnig ar Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
  • Cyfweliadau diwydiant

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, profion ar-lein, portffolios, lleoliadau gwaith llwyddiannus ac adborth gan gleientiaid. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:

  • NVQ Lefel 2 Trin Gwallt
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs, bydd angen Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt a naill ai TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd D neu’n uwch arnoch.

Bydd angen i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar, yn rhifog ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith fel rhan o’ch rhaglen. Bydd yr holl ddarpariaeth yn cymryd lle ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan yn hwyr. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis uwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £82 - £91, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt Lefel 2?

NFDI0023AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr