VTCT Diploma mewn Technoleg Ewinedd Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
Dydd Mawrth neu Dydd Mercher neu Dydd Iau
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Ydych chi eisiau bod yn dechnegydd ewinedd talentog?
Mae'r cwrs galwedigaethol cynhwysfawr hwn wedi'i gynllunio i roi'r paratoad gorau posibl i chi ar gyfer gyrfa fel technegydd ewinedd, gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n gweithio, neu eisiau gweithio fel technegydd ewinedd.
...rheiny sydd eisiau dysgu proffesiwn newydd ochr yn ochr â’u cyflogaeth bresennol.
...pobl sydd â diddordeb mewn technoleg ewinedd a’r diwydiant harddwch.
...pobl sy’n greadigol, a gyda sylw i fanylion.
Cynnwys y cwrs
Daw’r Diploma YEHG Lefel 3 mewn Technoleg ewinedd hwn â’r holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel technegydd ewinedd proffesiynol at ei gilydd.
Ymhlith y pynciau gofynnol y mae:
- Rhoi triniaeth y dwylo a thriniaethau’r traed
- Cymhwyso, cynnal a chadw safon ewinedd
- Cynnal iechyd a lles personol
- Iechyd a diogelwch a gofalu am gleientiaid.
Gall pynciau arbenigol dewisol gynnwys:
- Cynllunio a chymhwyso celf ewinedd
- Cynlluniau cuddio brychau
- Gwella cyflwr ewinedd gyda ffeiliau trydanol
- Hyrwyddo cynhyrchion
- Arddangos stoc er mwyn hyrwyddo gwerthiannau
Hefyd, byddwch yn cael gwybodaeth ac yn ennyn dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, gofalu am gleientiaid, cynnyrch ac offer harddwch cosmetig. Yn ogystal, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau technegol i baratoi’r croen a chymhwyso sawl triniaeth gwella ewinedd, gan ddefnyddio technegau amrywiol a rhyngbersonol, i’ch helpu i gyfathrebu’n effeithiol gyda chleientiaid.
Seiliwyd y cymhwyster ar therapi Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) mewn harddwch. Fe’i cydnabyddir gan y Gymdeithas Brydeinig broffesiynol arweiniol yn y DU, y British Association of Beauty Therapy and Cosmetology. Pan fyddwch chi wedi cael y cymhwyster hwn, byddwch yn gymwys i ddod yn aelod proffesiynol o BABTAC.
Disgwylir i chi weithio ar gleientiaid realistig mewn amgylchedd masnachol ac i fod yn gyfrifol am ddatblygu eich 'sail cleientiaid' eich hun - er bod y cymhwyster hwn yn caniatáu i chi gasglu tystiolaeth heb fod angen cael cleientiaid sy’n talu ffioedd.
Cewch eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o asesiadau ymarferol ar gyfer pob uned, aseiniad a phrosiectau a phrofion atebion lluosog yn ymdrin â’r wybodaeth sy’n sail i’r cwrs.
Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu i’ch helpu i ddod o hyd i waith yn dechnegydd ewinedd, ac yn eich galluogi i ymuno â chymdeithas broffesiynol a chael yr yswiriant angenrheidiol i weithio yn y diwydiant.
Gofynion Mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod yn 19 oed. Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig, yn weithgar a chyfeillgar a bydd angen i chi gael sgiliau cyflwyno personol o safon uchel. Dylech fod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg y salon yw:
- Tiwnig a throwsus ac esgidiau du
- Gwallt wedi ei glymu’n daclus oddi ar yr wyneb
- Rhaid peidio â gwisgo estyniadau ewinedd a farnais
- Dim tyllau – dim ond modrwy briodas y gellir ei gwisgo
Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £170.
I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.
Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
EPDI0338AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr